Newyddion S4C

Diogelwch ychwanegol wrth i Sweden baratoi i groesawu Eurovision

04/05/2024
eurovision.png

Mae disgwyl trefniadau diogelwch ychwanegol wrth i Sweden baratoi i groesawu cystadleuaeth Eurovision eleni.

Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn nhrydedd ddinas fwyaf y wlad, Malmo, ac mae disgwyl protestiadau mawr ar yr un pryd â'r gystadleuaeth.

Mae'r heddlu a threfnwyr yn dweud eu bod nhw wedi eu paratoi ac yn gobeithio am ddigwyddiad "llawen".

Daw'r tensiwn cynyddol wedi cwynion fod Israel yn parhau yn rhan o'r gystadleuaeth wrth i'r rhyfel yn Gaza barhau. 

Mae disgwyl i hyd at 100,000 o bobl ymweld â Malmo ar gyfer y gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal ar 11 Mai. 

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Sweden wedi i gantores o'r wlad Loreen ennill Eurovision y llynedd yn Lerpwl, gyda ei chân Tattoo.

Fe fydd lluoedd heddlu o ar draws Sweden yn cael eu defnyddio, yn ogystal â heddlu o Norwy a Denmarc. 

'Ansicrwydd'

Dywedodd Prif Weithredwr Heddlu Malmo, Petra Stenkula fod y wlad gyfan "eisoes ar lefel terfysgaeth pedwar allan o bump".

"Dwi'n meddwl ei fod yn amlwg fod ansicrwydd y byd hefyd wedi effeithio Eurovision. Yn Sweden, a Malmo yn benodol, mae yna brotestiadau wedi cael eu cynnal yn erbyn Israel yn cystadlu," meddai.

Enw cân Israel ar gyfer y gystadleuaeth yn wreiddiol oedd October Rain, ac roedd yn cyfeirio at ymosodiadau Hamas ar dde Israel y llynedd. 

Fe wnaeth darlledwr cyhoeddus Israel gytuno i addasu'r geiriau, ac fe wnaeth yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU), sy'n gyfrifol am y gystadleuaeth, gymeradwyo'r fersiwn newydd, sydd bellach o dan yr enw Hurricane.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.