Newyddion S4C

Carchar i ddyn 71 oed am gam-drin plentyn yn rhywiol

03/05/2024
David Rowland

Mae dyn 71 oed o Wrecsam wedi cael ei garcharu am gam-drin plentyn yn rhywiol.

Fe wnaeth David Rowland, sydd heb gyfeiriad parhaol, ymosod yn rhywiol ar blentyn dros gyfnod o amser rhwng Awst 2022 a Mehefin y llynedd.

Cafodd ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Daeth Rowland i sylw’r heddlu ym mis Mehefin y llynedd pan ddywedodd plentyn wrth ei mam ei bod wedi dioddef sawl ymosodiad rhywiol ganddo.

Cafodd ei arestio ac fe wnaeth swyddogion gymryd sawl dyfais ganddo, gan gynnwys ei ffôn a'i liniadur. Wrth archwilio’r dyfeisiau, daeth swyddogion o hyd i nifer o chwiliadau rhyngrwyd a delweddau oedd yn dangos diddordeb rhywiol mewn plant a throseddau rhywiol.

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y swyddog ymchwilio Ditectif Gwnstabl Ben Franklin: “Rwy’n canmol y dioddefwr am ei dewrder aruthrol yn ymddiried yn ei mam a chymryd y cam anodd wrth adrodd am y mater hwn i ni.

“Ei dewrder wrth siarad allan er mwyn gorfodi Rowland i stopio’r gamdriniaeth a wnaeth arwain at ei arestio, ac ynghyd â chefnogaeth ei mam trwy gydol yr ymchwiliad, arweiniodd hefyd at ei ddedfryd am 10 mlynedd.

“Rydym wedi ymrwymo i ddod â throseddwyr rhywiol o flaen eu gwell a byddwn yn annog unrhyw un sy'n dymuno adrodd am ddigwyddiad i ddod ymlaen i siarad â ni.

“Rydym yn cymryd pob un digwyddiad o drais yn erbyn menywod a merched o ddifrif a bydd digwyddiadau o’r natur hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i’r heddlu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.