Newyddion S4C

Cae Ras ar gynnydd: Pa stadiymau eraill sydd â nifer y seddi yn fwy na phoblogaeth eu lleoliad?

04/05/2024
Y Cae Ras / Maes Tegid

Pe bai cynlluniau Rob McElhenney a Ryan Reynolds i gynnwys 55,000 o seddi yn y Cae Ras yn dod yn wir, yna fe fyddai Wrecsam yn ymuno â rhestr fach iawn o bentrefi, trefi a dinasoedd lle mae nifer y seddi yn y stadiwm yn fwy na'r boblogaeth sy'n byw yno.

Yn ôl cyfrifiad 2021 mae gan ddinas Wrecsam boblogaeth o 44,785.

Dywedodd perchnogion CPD Wrecsam ddydd Mercher eu bod am ychwanegu at nifer y seddi ym mhob eisteddle yn y Cae Ras ac yn "meddwl y gallem ni gael rhwng 45,000 a 55,000 o bobl i mewn yno."

Fe fydd hynny yn golygu y gall pob un person sy'n byw yn y ddinas wylio gemau'r clwb - gyda digon o le i drigolion o'r tu allan hefyd.

Ond faint o glybiau sydd eisoes yn y sefyllfa yma?

Mae un ohonynt awr i ffwrdd yn unig o Wrecsam ac yn chwarae yn y Cymru Premier JD, sef CPD Tref Bala.

Mae gan y dref boblogaeth o 1,999 tra bod gan stadiwm Maes Tegid le i 3,000 o gefnogwyr.

Fe all pawb yn y dref lenwi'r stadiwm a bydd dal lle i 1,001 o gefnogwyr eraill yno.

Ffrainc a'r Alban

Yn Yr Alban, mae Ross County, sydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair y wlad yn chwarae eu gemau yn nhref Dingwall.

Mae gan y stadiwm, Victoria Park le i 6,310 o gefnogwyr tra bod gan y dref 5,026 o bobl yn byw ynddo.

Yn Ffrainc mae yna dimau sydd â phoblogaeth lai na chapasiti stadiwm y ddinas.

Mae Lens yn safle rhif 6 yn Ligue 1 ar hyn o bryd, Uwch Gynghrair Ffrainc ac un safle yn unig i ffwrdd i gymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Ewropeaidd.

Gyda phoblogaeth o 35,257, bydd dros 4,000 o seddi gwag yn y stadiwm pe bai pob un person oedd yn byw yno yn prynu tocyn i wylio'r tîm yn Stade Félix Bollaert, sydd yn dal 41,233 o bobl.

Y stadiwm arall yn y wlad yw Stade de Roudourou yn Guingamp, sydd yn dal 18,040 o gefnogwyr, mwy na dwbl nifer y bobl sy'n byw yno.

8,040 o bobl sydd yn byw yn Guingamp, gan olygu bydd lle i 10,000 o gefnogwyr pe bai pawb yn y dref.

Dim ond 5,696 yw poblogaeth prifddinas Lichtenstein, Vaduz, ond mae'r stadiwm Rheinpark Stadion yn dal dros 7,000 o gefnogwyr. 

Beth am edrych y tu hwnt i Ewrop? Yn ninas El Salvador yn Chile mae Stadiwm El Cobre. Gyda chapasiti o tua 12,000, mae’r stadiwm yn gallu cynnwys holl boblogaeth y dref sydd bellach yn 7,000.

A fydd yn Wrecsam yn ymuno â'r clwb dethol yma o dimau pêl-droed sy'n tyfu yn fwy na'r dref neu ddinas sy'n gartref iddyn nhw?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.