Newyddion S4C

Carcharu dyn o Langrannog am ymosod yn rhywiol ar fenyw

03/05/2024
Suroj Bk

Mae dyn o Geredigion wedi cael ei garcharu am dair blynedd a chwe mis am ymosod yn rhywiol ar fenyw.

Fe gafodd Suroj Bk, 27, o Langrannog, ei ddedfrydu yr wythnos hon wedi achos wythnos o hyd yn Llys y Goron Abertawe. 

Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad fod Bk wedi mynd i fewn i i dŷ’r fenyw ac ymosod yn rhywiol arni wrth iddi orwedd yn ei gwely ar 7 Hydref y llynedd. 

Pan sylweddolodd beth oedd yn digwydd, gwthiodd Bk o'i gwely a galw'r heddlu. 

Fe gafodd Bk ei arestio y diwrnod canlynol.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, fe gymerodd y rheithgor lai na dwy awr i ddod i benderfyniad unfrydol i'w ddedfrydu'n euog. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sam Gregory: "Mae digwyddiadau o’r natur hwn yn anghyffredin iawn o fewn Ceredigion, diolch byth, a hoffwn sicrhau’r gymuned mai digwyddiad unigol oedd hwn, a bod adnabod ac arestio’r unigolyn dan amheuaeth wedi ei gyflawni’n gyflym ac yn effeithiol.

"Dangosodd y dioddefydd yn yr achos hwn ddewrder aruthrol wrth adrodd i’r heddlu, ac er nad oedd yr ymchwiliad hwn o natur syml, drwy arbenigrwydd a dycnwch swyddogion fforensig, yn cydweithio gyda’r tîm ymchwilio, a’r dioddefydd, yr arweiniwyd at yr erlyniad llwyddiannus hwn.

“Rwyf yn gobeithio bod y ddedfryd a roddwyd i Suroj Bk yn anfon neges glir a chadarn bod Heddlu Dyfed Powys yn cymryd adroddiadau o ymosodiadau rhywiol o ddifri."

Fe gafodd Bk ei ddedfrydu i dair blynedd a chwe mis yn y carchar a gorchymyn atal pum mlynedd, ac fe fydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.