Llafur yn dathlu llwyddiant yn etholiadau Lloegr
Mae Llafur wedi ennill is-etholiad De Blackpool yn ogystal ag ennill rheolaeth o bedwar cyngor yn Lloegr yn yr etholiadau lleol, wrth i'r pwysau gynyddu ar Rishi Sunak.
Fe sicrhaodd yr AS Llafur Chris Webb fwyafrif o 7,607, ar ôl ennill 10,825 o bleidleisiau.
Daeth yr AS Ceidwadol David Jones yn ail gyda 3,218 o bleidleisiau, 117 yn unig o flaen ymgeisydd Reform UK, Mark Butcher.
Daeth yr is-etholiad wedi i'r cyn AS Ceidwadol Scott Benton ymddiswyddo yn dilyn sgandal lobïo.
Dyma'r seithfed is-etholiad i Rishi Sunak ei golli ers iddo ddod yn brif weinidog yn 2022.
Fe gafodd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd eu cynnal ddydd Iau hefyd, gyda phedwar yn cael eu hethol yng Nghymru.
Wrth ymateb i'r canlyniad, dywedodd Chris Webb: "Nid yw pobl bellach yn ymddiried yn y Ceidwadwyr. Dylai'r Prif Weinidog wneud y peth iawn a derbyn eich bod chi wedi methu a galw etholiad cyffredinol."
Ychwanegodd arweinydd y blaid Lafur Syr Keir Starmer: "Buddugoliaeth arwyddocaol yn Ne Blackpool ydy'r canlyniad pwysicaf heddiw.
"Dyma oedd yr un frwydr lle roedd gan bleidleiswyr y cyfle i anfon neges uniongyrchol at Geidwadwyr Rishi Sunak, a'r neges honno yw pleidlais ysgubol dros newid."
Mewn canlyniadau dros nos, fe enillodd Llafur mewn cynghorau yn Hartlepool, Thurrock, Rushmoor a Redditch.
Yn y cyfamser, fe gollodd y Ceidwadwyr reolaeth o dri chyngor.
Roedd hi'n noson siomedig i'r Ceidwadwyr, ar ôl colli mwy na 100 o seddi cyngor a rheolaeth o dri chyngor, tra enillodd Llafur 55 sedd cyngor.
Mae pleidleisiau yn parhau i gael eu cyfri yn y mwyafrif o gynghorau, gyda disgwyl y canlyniadau terfynol erbyn dydd Sul.
Prif lun: Chris Webb AS, gan PA