21 mlynedd o garchar i ddyn o Bort Talbot am gam-drin plentyn a threfnu i gam-drin eraill

Craig Henton

Mae dyn 54 oed o Bort Talbot wedi ei garcharu am 21 mlynedd am gam-drin plentyn a thrafod cynlluniau i gam-drin plant eraill.

Dywedodd Craig Henton ei fod wedi dod yn ffrind i fam fregus er mwyn cael mynediad at ei merch a meithrin perthynas â hi, gyda'r bwriad o'i cham-drin yn rhywiol.

Death yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) o hyd i gyfanswm o 4,570 o ddelweddau a fideos anweddus ar un o ddyfeisiau Henton, gan gynnwys 918 yng nghategori A, sef y mwyaf difrifol.

Roedd yr asiantaeth wedi derbyn gwybodaeth bod defnyddiwr ap negeseuon wedi'i amgryptio wedi dweud bod ganddo gynlluniau i gyflawni troseddau rhywiol yn erbyn merch bump oed.

Fe wnaeth ymchwilwyr olrhain y cyfrif i gyfeiriad Henton, ac wrth archwilio ei ddyfeisiau fe ddaethon nhw o hyd i ddelwedd anweddus categori C o'r plentyn.

'Pedoffeil ers 25 mlynedd'

Mewn sgyrsiau rhwng mis Chwefror a mis Mai 2024, dywedodd Henton wrth ddefnyddwyr ar yr ap ei fod wedi bod yn bedoffeil ers 25 mlynedd.

Dangosodd ffôn Henton ei fod wedi cymryd rhan mewn cannoedd o sgyrsiau gyda defnyddwyr eraill am gam-drin plant yn rhywiol.

Roedd hefyd wedi trafod cyfarfod â'r defnyddwyr hynny a'u plant er mwyn iddo allu eu cam-drin.

Honnodd Henton ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar blentyn yn y gorffennol pan oedd hi rhwng tair a phump oed.

Cafodd y plentyn hwnnw ei hadnabod a'i diogelu gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. 

Fe gafodd ei arestio eto ym misoedd Mai a Mehefin 2024 ar amheuaeth o ymosod ar ferch o dan 13 oed a threfnu i gyflawni trosedd rywiol yn erbyn plentyn.

Ni wnaeth Henton sylw wrth gael ei holi gan yr heddlu, ac fe gafodd ei gyhuddo o 18 o droseddau.

Cafodd bron i 1,400 o ddelweddau anweddus eraill o blant eu darganfod ar ddyfais arall oedd yn eiddo i Henton ym mis Ebrill 2024.

Plediodd Henton yn euog i'r holl droseddau yn Llys y Goron Abertawe ym mis Hydref 2025.

Dedfryd

Cafodd Henton ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth i 21 mlynedd yn y carchar, gyda chwe blynedd arall ar drwydded.

Fe gafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol am gyfnod amhenodol a bydd ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am weddill ei oes.

Dywedodd Danielle Pownall, Rheolwr Gweithrediadau gyda'r NCA: "Mae Craig Henton yn bedoffeil ysglyfaethus a pheryglus a wnaeth gam-drin plentyn ifanc a mynegi ei barodrwydd i gyfarfod ag eraill er mwyn cam-drin rhagor o blant i fodloni ei chwant rhywiol.

"Fe ymunodd â grwpiau sgwrsio a gafodd eu sefydlu'n benodol i alluogi a chyfiawnhau cam-drin plant yn rhywiol. Roedd wedi nodi’n  agored ei fod yn bedoffeil ers 25 mlynedd a'i fwriad i dargedu menywod bregus er mwyn iddo allu cam-drin eu plant.

"Bydd yr NCA yn parhau â'n gwaith gyda phartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol i ddiogelu plant rhag camdrinwyr ffiaidd fel Henton."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.