Syr Keir Starmer i ymddiswyddo fel aelod seneddol
Mae cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel aelod seneddol, sy'n golygu y bydd is-etholiad yn cael ei gynnal yn ei etholaeth yn Llundain.
Mewn datganiad, dywedodd bod gwasanaethu etholaeth Holborn a St Pancras am 11 mlynedd wedi bod yn fraint enfawr.
Ychwanegodd y bydd bellach yn canolbwyntio ar "faterion rhyngwladol."
Ildiodd Syr Keir Starmer yr awenau fel prif weinidog ar ddechrau'r haf, gydag Andy Burnham yn ei olynu.
Wrth fwrw golwg yn ôl ar ei gyfnod yn brif weinidog, cyfeiriodd eto at fuddugoliaeth Llafur yn etholiad cyffredinol 2024, gan nodi fod hynny'n "gamp enfawr."
Mewn cyfweliad â'r Camden New Journal, dywedodd Syr Keir Starmer mai nawr yw'r "amser cywir" i roi'r gorau i'w rôl fel aelod seneddol er mwyn canolbwyntio ar faterion rhyngwladol.
Dywedodd wrth y papur: "Mae hi wedi bod yn fraint enfawr i gynrychioli'r etholaeth orau yn y wlad, ac i olynu Frank Dobson, a oedd yn AS rhagorol.
"Byddaf nawr yn canolbwyntio ar bethau eraill, sef materion rhyngwladol, yn cynnwys amddiffyn, diogelwch, masnach a thechnoleg mewn byd sy'n newid yn gyflym."
"Byddaf hefyd yn parhau, fel rydw i wedi gwneud ers amser hir, i weithio ar ffyrdd o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae hynny yn bwysig iawn i fi.
"Mae'n waith y dechreuais cyn i fi ddod yn AS, ac mae'n waith yr ydw i'n awyddus i'w barhau wedi i mi fod yn AS. Felly, materion rhyngwladol ar un llaw a pharhau â'r gwaith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ar y llaw arall."
Daeth y cyhoeddiad cyn i Andy Burnham sefyll yn Nhŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf fel Prif Weinidog ddydd Mawrth.
Mae disgwyl i Mr Burnham wynebu dwy awr o gwestiynau gan ASau brynhawn Mawrth, y tro cyntaf iddo gynrychioli'r llywodraeth yno ers 16 mlynedd.
'Tro pedol'
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae penderfyniad Syr Keir Starmer yn "dro pedol arall."
Dywedodd cadeirydd y blaid, Kevin Hollinrake: "Tra ein bod wedi anghytuno â mwyafrif llethol o benderfyniadau Syr Keir Starmer, rydw i'n dymuno'n dda iddo fe a'i deulu yn y dyfodol.
"Ei weithred olaf fel Aelod Seneddol yw tro pedol arall, ar ôl iddo addo aros yn y rôl.
"Mae'r penderfyniad i ildio'r awenau yn mynd i arwain at is-etholiad drud i etholwyr."