Newyddion S4C

Hyd at 1,200 o famau newydd 'yn dioddef o seicosis yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn'

02/05/2024
Mamolaeth

Mae hyd at 1,200 o famau newydd yn dioddef o seicosis yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn, yn ôl dadansoddiad newydd. 

Mae ffigyrau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn awgrymu y gallai rhwng 600 a 1,200 o famau ddioddef o'r cyflwr bob blwyddyn. 

Mae seicosis postpartum yn gyflwr iechyd meddwl difrifol sy'n digwydd yn fuan ar ôl rhoi genedigaeth.

Mae'r symptomau yn cynnwys gweld neu glywed pethau sydd ddim yn bodoli. 

Mae gwefan y GIG yn dweud fod merched yn gallu meddwl eu bod nhw'n cael eu dilyn neu bod rhywun yn eu gwylio. 

Mae symptomau fel arfer yn dechrau o fewn y pythefnos cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, yn aml o fewn yr oriau neu'r dyddiau cyntaf.

Os nad yw'n cael ei drin yn fuan, a hynny fel arfer yn yr ysbyty, gall y seicosis gynyddu'r risg o hunanladdiad.

Dywedodd cadeirydd y Gyfadran Amenedigol yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion, Dr Cressida Manning: "Bob blwyddyn, mae cannoedd o famau yn dioddef o seicosis postpartum sy'n rhoi eu hiechyd nhw ac iechyd eu babi nhw yn y fantol.

"Mae hefyd yn gwneud i ferched golli'r cyfle i greu atgofion gyda'u babanod newydd-anedig, a gall hyn fod yn hynod o drawmatig os nad ydyn nhw'n derbyn gofal ar frys.

"Gyda'r gefnogaeth gywir, gall merched gyda seicosis postpartum wella'n llawn o'u salwch a datblygu perthynas gariadus gyda'u plentyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.