Newyddion S4C

Cynnal etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd

02/05/2024
heddlu

Fe fydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal ddydd Iau, gyda phedwar yn cael eu hethol yng Nghymru. 

Fe fydd comisiynydd yn cael ei ethol ar gyfer Heddlu’r Gogledd, Heddlu’r De, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys.

Prif waith Comisiynwyr ydy penodi'r prif gwnstabl, a'u diswyddo os oes angen, gosod y gyllideb ar gyfer eu llu a nodi blaenoriaethau’r awdurdodau plismona lleol.  

Fe gafodd y Comisiynwyr cyntaf eu hethol yng Nghymru a’r rhan fwyaf o Loegr yn 2012 dan arweiniad y cyn-Brif Weinidog David Cameron, gan gymryd lle awdurdodau’r heddlu oedd yn gyfrifol am y gwaith ynghynt. 

Y nod ar y pryd oedd sicrhau fod lluoedd yr heddlu yn fwy gweledol i’w cymunedau lleol, gan geisio eu gwneud yn fwy atebol i drigolion a’u diogelwch. 

Mae’r etholiadau yn cael eu cynnal pob pedair blynedd, gyda'r rhai diweddaraf yn cael eu cynnal ddydd Iau.

Fe fydd angen i unigolion fynd â math o ID i'r blychau pleidleisio am y tro cyntaf erioed, sef naill ai pasbort Prydeinig, trwydded yrru, cerdyn teithio 60 oed a throsodd, cerdyn teithio person anabl, neu gerdyn sy’n profi oedran (cerdyn PASS). 

Ymgeiswyr Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd: 

Heddlu Gogledd Cymru

Andy Dunbobbin, Llafur Cymru

Ann Griffith, Plaid Cymru

Brian Jones, Ceidwadwyr Cymru

David Richard Marbrow, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Heddlu Dyfed-Powys 

Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymru

Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru

Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru

Heddlu Gwent

Donna Cushing, Plaid Cymru

Mike Hamilton, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymru

Jane Mudd, Llafur Cymru

Heddlu De Cymru

Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

George Carroll, Ceidwadwyr Cymru

Dennis Clarke, Plaid Cymru

Emma Wools, Llafur Cymru

Fe fydd 11 maer yn cael eu hethol yn Lloegr ddydd Iau hefyd, yn ogystal ag etholiadau ar gyfer 107 o gynghorau a 33 o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd. 

Mae yna fwy na 2,660 o seddi cyngor ar gael yn Lloegr, gyda'r Ceidwadwyr a Llafur yn amddiffyn o gwmpas 1,000 o seddi yr un.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amddiffyn ychydig dros 400, gyda'r Blaid Werdd yn amddiffyn ychydig yn fwy na 100. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.