Un o sêr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, Terry Medwin yn marw yn 91 oed
Mae un o sêr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, Terry Medwin wedi marw yn 91 oed.
Enillodd yr ymosodwr 30 cap dros ei wlad a chwaraeodd i Abertawe a Tottenham Hotspur.
Sgoriodd y gôl a wnaeth sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Hwngari yng Nghwpan y Byd, a anfonodd Cymru i rownd yr wyth olaf y gystadleuaeth.
"Roedd yn amser maith yn ôl, ond 'dych chi ddim yn ei anghofio," meddai wrth BBC Sport yn 2014.
"Roedd yn brofiad gwych i chwarae dros Gymru pan enillais fy nghap cyntaf, ond hyd yn oed yn well wrth gyrraedd Cwpan y Byd.
"Enillon ni gêm ail-gyfle yn erbyn Hwngari a dyna pryd cafodd John Charles ei anafu.
"Pe bai yn holliach i chwarae yn erbyn Brasil, dwi ddim yn dweud byddwn ni wedi ennill, ond roedd yn chwaraewr gwych."
Roedd yn rhan o dîm Tottenham Hotspur pan enillodd y clwb y gynghrair a Chwpan FA Lloegr yn 1961 ac yn 1962.
Daeth ei yrfa fel chwaraewr i ben yn 1963 wedi iddo dorri ei goes.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn drist i glywed am farwolaeth Terry Medwin.
"Gyda thristwch mawr y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhannu’r newyddion bod Terry Medwin wedi marw yn 91 oed.
"Mae meddyliau pawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr amser trist hwn."
Llun: CPD Dinas Abertawe