Rhybudd melyn o fellt a tharanau i rannau o Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer mellt a tharanau i rannau o Gymru ddydd Mercher.
Bydd y rhybudd mewn grym yn rhai o siroedd de Cymru a’r canolbarth o 20.00 hyd at 8.00 fore Iau.
Mae disgwyl “glaw trwm gyda pheryg stormydd mellt a tharanau a llifogydd,” medden nhw.
Gallai hynny arwain at amodau gyrru anodd a chau rhai ffyrdd.
Mae yna siawns y gallai toriadau pŵer ddigwydd a gwasanaethau eraill i rai cartrefi a busnesau gael eu colli.
Mae siawns fach y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, gyda difrod i rai adeiladau oherwydd y dŵr, mellt yn taro, cenllysg neu wyntoedd cryfion.
“Os ydych chi’n eich cael eich hun y tu allan ac yn clywed taranau, ceisiwch ddod o hyd i loches gaeedig ddiogel (fel car),” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Peidiwch â chysgodi o dan neu gerllaw coed, nac unrhyw strwythurau eraill a allai gael eu taro gan fellten. Os ydych ar dir uchel symudwch i dir is.
“Byddwch yn barod i rybuddion tywydd newid yn gyflym: pan gyhoeddir rhybudd tywydd, mae’r Swyddfa Dywydd yn argymell eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon y tywydd yn eich ardal.”
Mae’r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canolynol:
Blaenau Gwent
Penybont
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg