19 wedi marw wedi i ffordd chwalu yn China
01/05/2024
Mae 19 o bobl wedi marw a 30 wedi eu cludo i’r ysbyty wedi i ffordd chwalu yn China.
Chwalodd y ffordd yn rhanbarth Guangdong wedi dyddiau o law trwm.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl y digwyddiad am 2.10 ddydd Mercher (19.10 yn y Deyrnas Unedig).
Roedd delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos hollt fawr yn y ffordd, a phentwr o geir wedi eu gorchuddio yn rhannol â mwd.
Dyw’r awdurdodau yn China heb gynnig sylw ar yr hyn a achosodd y chwalfa.