Newyddion S4C

Gwyddonwyr o Gymru yn datblygu bara gwyn iachach

01/05/2024
Bara gwyn

Mae gwyddonwyr o Gymru yn ceisio creu math newydd o fara gwyn sydd yr un mor iach â bara gwenith cyflawn.

Mae'r prosiect ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth wedi'i hariannu gan Lywodraeth y DU er mwyn gwella buddion iechyd bwyd Prydain.

Mae'r ymchwilwyr yn bwriadu ychwanegu niferoedd bach o bys, ffa a grawnfwydydd at y cymysgedd bara, yn ogystal â bran a germ gwenith sydd fel arfer yn cael eu tynnu o flawd gwyn.

Yn ôl Cymdeithas Ddiabetig Prydain, dyw 95% o oedolion ddim yn bwyta digon o rawn cyflawn ac nid yw bron i un o bob tri ohonom yn cael dim o gwbl.

Mae gwneuthurwyr bara eisoes wedi ceisio gwneud eu torthau gwyn yn iachach trwy ychwanegu bran at eu blawd, ond dyw cwsmeriaid ddim wedi bod yn hoffi'r blas a'r gwead.

Dywedodd Dr Catherine Howarth o Brifysgol Aberystwyth, sy'n arwain y prosiect, fod gwyddonwyr wedi dechrau dadansoddi cyfansoddiad cemegol manwl blawd gwyn bresennol.

"Rydym am ddarganfod yn union pa fitaminau a mwynau sy'n cael eu colli yn ystod y broses felino," meddai Dr Howarth.

“Gan ddefnyddio grawnfwydydd eraill gallwn wella’r lefelau haearn, sinc a fitamin ac yn bwysicaf oll y cynnwys ffibr, oherwydd ychydig iawn o ffibr sydd gan fara gwyn, sydd mor bwysig ar gyfer iechyd da.”

Unwaith y bydd Dr Howarth wedi dyfeisio ryseitiau, bydd Chris Holister, rheolwr datblygu cynnyrch ar gyfer y cynhyrchydd blawd Shipton Mill, yn eu defnyddio i greu math newydd o fara gwyn.

Y gobaith yw y gallai'r cynnyrch fod ar silffoedd archfarchnadoedd ymhen rhyw ddwy flynedd.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.