Achos llys prifathro yng Ngwynedd: Cyn-bennaeth addysg ‘heb gadw cofnodion’ o sgyrsiau
Achos llys prifathro yng Ngwynedd: Cyn-bennaeth addysg ‘heb gadw cofnodion’ o sgyrsiau
Mae llys wedi clywed nad oedd cyn-bennaeth addysg Cyngor Gwynedd wedi cadw cofnodion o sgyrsiau allweddol roedd wedi eu cael gyda phrifathro sy’n wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw.
Mae Neil Foden, 66 oed, yn wynebu 20 cyhuddiad yn ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant, ac mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Clywodd yr achos llys yn flaenorol bod athro arall yng Ngwynedd wedi cysylltu â’r adran addysg i fynegi pryder fod Neil Foden yn rhoi ei hun mewn sefyllfaoedd “a allai fod yn niweidiol” i’w enw da.
Fore Mawrth roedd cyn-bennaeth addysg Cyngor Gwynedd rhwng 2017 a 2023, Garem Jackson (dde uwchben) yn rhoi tystiolaeth o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug.
Fe holwyd Mr Jackson yn benodol gan fargyfreithiwr yr elyniad, John Philpotts am y camau gafodd eu cymryd gan yr adran addysg ar y pryd wrth ymateb i bryderon yr athro.
Dywedodd Mr Jackson ei fod wedi cael cyngor gan swyddog diogelu plant yr awdurdod ar y pryd nad oedd angen ymchwiliad llawn gan nad oedd cyhuddiad penodol wedi ei gofnodi.
Er hyn, fe benderfynwyd bod angen “sgwrs swyddogol” gyda Mr Foden dros y ffôn, er mwyn ei atgoffa o “ymarferiadau da” prifathro.
Fe ddywedodd Mr Jackson hefyd wrth y llys nad oedd ganddo atgof pendant am rai o’r digwyddiadau yn ystod y cyfnod, gan nad oedd wedi cadw cofnodion ysgrifenedig o sgyrsiau a chamau a gymerwyd yn ymwneud â’r pryderon hyn.
Fe ofynnodd y Barnwr Rhys Rowlands i Garem Jackson: “Mr Jackson, fel Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, a wnaethoch chi gadw unrhyw gofnodion o’r sgyrsiau yma efo Mr Foden?”
Ac fe ymatebodd Garem Jackson: “Dim cofnodion ysgrifenedig, naddo.”
Fe ddywedodd Mr Jackson ei fod wedi ildio ei swydd ym mis Medi 2023 am “resymau personol” a’i fod ar hyn o bryd yn ddi-waith.
Mae’r achos yn parhau.
Llun: Garem Jackson yn cyrraedd y llys. Inset, Neil Foden.