Newyddion S4C

Plant dal yn llwglyd wedi cinio ysgol

ITV Cymru 29/04/2024

Plant dal yn llwglyd wedi cinio ysgol

Mae plant yn dal yn llwglyd ar ôl cinio ysgol, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru. 

Roedd bron i chwarter y plant a gafodd eu holi yn rhan o arolwg Rocio Cifuentes yn dweud nad ydyn nhw yn medru cael llysiau yn yr ysgol.  

Dywedodd 22% nad oedd ffrwythau ar gael. 

Dywedodd un plentyn 11 mlwydd oed: “Rydym ni yn derbyn yr un faint o fwyd â blwyddyn 1, ac nid yw'n llenwi ein boliau. Rydw i wastad yn teimlo’n llwglyd ar ôl bwyta.” 

Mae Corey Baker yn gweithio mewn ysgol yng Nghaerdydd. Dywedodd wrth ITV Cymru bod mwy o blant yn cael mynediad i ginio ysgol ers i'r cynllun prydau ysgol am ddim ddod i rym. 

“Lle oeddwn i’n gweld 20-50% o fy nosbarth yn cael mynediad i ginio ysgol am ddim rydw i nawr yn gweld cynnydd mawr.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cynnig y cyfle iddyn nhw gael cinio poeth tra gallan nhw. 

"Ddim o reidrwydd yn ein hysgol ni, ond mewn amgylchiadau eraill, dydych chi ddim yn gwybod os yw plentyn yn mynd adref i gael pryd o fwyd poeth, yn enwedig gyda'r argyfwng costau byw." 

Yn ystod amser egwyl, fe wnaeth ITV Cymru holi plant yr ysgol. 

Pan welodd yr arolwg fod plant eraill yn mynd yn llwglyd, dywedodd un plentyn: "Fe wnaeth i mi deimlo'n lwcus iawn. Gydag ysgolion eraill rwy'n teimlo'n ddrwg oherwydd efallai nad ydyn nhw mor ffodus â ni."

Dywedodd Rocio Cifuentes, y comisiynydd sydd yn gyfrifol dros blant yng Nghymru, bod ei hymchwil yn dangos bod angen i Lywodraeth Cymru wneud “buddsoddiad sylweddol” ym maes prydau ysgol. 

“Rwyf wedi clywed pryderon yn anecdotaidd bod yr hyn sy'n cael ei gynnig yn rhy fach o lawer o blant, ac mae canlyniadau’r arolwg hyn yn cadarnhau’r pryderon hynny.”

“Mae’r polisi prydau ysgol am ddim yn gyffredinol yn wych, ond mae’n rhaid iddo ddiwallu anghenion plant er mwyn cyflawni ei lawn botensial.

“Mae’n rhaid i ni wneud hyn yn iawn a gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad sylweddol hwn gan y Llywodraeth yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol posib ar fywydau plant.

"Er mwyn i ni wneud hynny, mae'n rhaid i ni wrando ar yr hyn y mae plant ledled Cymru yn ei ddweud wrthym ni."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y canllawiau ar brydau bwyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu hadolygu'n fuan.

“Fel rhan o’r broses ymgynghori, byddwn yn ystyried barn plant a phobl ifanc a rhieni am unrhyw newidiadau rydym ni yn eu cynllunio ar gyfer bwyd ysgol,” meddai'r llefarydd.

Llun: PA Images

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.