Ymgyrchydd iaith i ymddangos yn y llys am y pedwerydd tro
Mae'r ymgyrchydd iaith Toni Schiavone wedi cael gwybod y bydd yn ymddangos yn y llys am y pedwerydd tro fis nesaf, a hynny am iddo wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg.
Daw hyn wedi i'r cwmni parcio One Parking Solution ennill apêl i ailgyflwyno'r achos ym mis Ionawr.
Fe fydd Mr Schiavone yn ymddangos o flaen y llys yn Aberystwyth ar 13 Mai.
Fe dderbyniodd Mr Schiavone hysbysiad cosb parcio uniaith Saesneg am beidio talu mewn maes parcio yn Llangrannog ym mis Medi 2020.
Fe gafodd yr achos gwreiddiol ei daflu allan o'r llys ym mis Mai 2022 am nad oedd cynrychiolydd o'r cwmni parcio yn bresennol, a'r ail ym mis Awst 2023 wedi i'r achos gael ei gyflwyno yn hwyr ac o dan y rheolau anghywir.
Ond fe enillodd One Parking Solution apêl i barhau i erlyn Mr Schiavone ym mis Ionawr eleni wedi i'r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu'r ddau achos cyntaf o'r llys.
Dywedodd y barnwr, Gareth Humphreys, y dylai’r cwmni parcio ystyried yn ofalus gwerth parhau gydag achos sydd eisoes wedi bod yn “hir, anffodus tu hwnt” ac sydd wedi costio dros £10,000 i’r cwmni parcio hyd yma.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y llys i ddyfarnu nad yw rhybuddion parcio unaith Saesneg yn ddigonol, ac ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i sicrhau bod hawliau siaradwyr y Gymraeg yn y sector breifat yn cael eu parchu.
'Siomedig'
Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: "Mae’n siomedig bod One Parking Solution wedi penderfynu ailgyflwyno’r achos hon, ond y gwir reswm bod rhaid i Toni fynd o flaen llys unwaith eto yw am nad yw hawliau pobl Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg wedi’u sicrhau mewn statud.
"Rydym wedi gweld achosion eraill o hyn yn ddiweddar wrth i HSBC a’r cwmni egni OVO israddio neu ddiddymu eu gwasanaethau Cymraeg, heb unrhyw ymateb cadarn gan ein Llywodraeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym am weld pob sector yn cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg ac mae cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth i ni.
"Rydym yn canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd sy'n cael effaith ystyrlon ac ymarferol ar hyrwyddo'r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Fel rhan o hyn, rydym yn dilyn rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau'r Gymraeg i fwy o sectorau dros y blynyddoedd nesaf."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda chwmni One Parking Solution am ymateb.