
Cannoedd yn dathlu Gŵyl Holi yng Nghaerdydd

Mae cannoedd o Hindŵiaid ac eraill, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, wedi ymgasglu yng Nghastell Caerdydd i ddathlu Gŵyl Holi.
Holi yw'r Ŵyl Hindŵaidd o gariad a hapusrwydd ac fe fydd fel arfer yn cael ei dathlu i nodi dechrau'r Gwanwyn.
Mae'n ddathliad bywiog gyda chanu a dawnsio sy’n adnabyddus ledled y byd am ei thraddodiad o daflu paent powdr 'gulal' neu liw llachar.
Ymhlith y bobl oedd yn cymryd rhan ym mhrifddinas Cymru roedd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething.
Dywedodd: “Mae’n ddathliad o gariad ac amrywiaeth ond hefyd yn amser ar gyfer maddeuant ac adnewyddiad.
“Mae cymaint o wahanol wyliau, gwahanol grefyddau, sy’n dweud wrthym pwy ydyn ni fel dynoliaeth.
“Mae’n ddathliad gwych sydd nid yn unig yn gwneud Caerdydd beth ydyw ond sydd hefyd yn rhan o stori Cymru.
“Mae’n ddathliad gwirioneddol o sut mae ein gwlad yn cael ei chyfoethogi gan ein hamrywiaeth ac mae’n lot o hwyl hefyd.”

Dywedodd Raj Aggarwa, conswl anrhydeddus India yng Nghaerdydd, wrth ITV Cymru: “Mae heddiw yn ymwneud â dathlu Holi, hapusrwydd, dod ynghyd a chwarae gyda lliwiau bywiog.
“Mae’n ymwneud â chwarae gyda phawb a chael llawer o hwyl, a brawdgarwch a chryfhau cysylltiadau rhwng pobl.