Gwrthod cais am baneli solar ar do gwesty poblogaidd yn Aberaeron
Mae cynlluniau i osod paneli solar ar do bwyty a gwesty glan môr poblogaidd yng Ngheredigion wedi’u gwrthod oherwydd ei effaith bosibl ar ran o “un o’r golygfeydd pwysicaf yn y sir”.
Gofynnodd Wells Jones am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer 67 o baneli solar ar do Gwesty'r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd yn adeilad rhestredig Gradd II.
Mae gwesty'r Harbourmaster yn ardal gadwraeth y dref, ac mae'n un o’r adeiladau cynharaf yn Aberaeron.
Mae'n deillio o gyfnod adeiladu'r harbwr rhwng 1807 a 1811 ac fe gafodd ei godi gan y Parch Alban T J Gwynne i alluogi’r harbwrfeistr i fonitro’r holl longau oedd yn mynd a dod.
Dywedodd adroddiad ar gyfer adran gynllunio Cyngor Ceredigion: “Mae’n rhaid i leoliad paneli solar ffotofoltäig ar unrhyw adeilad rhestredig gael ei archwilio’n llawn a’i gyfiawnhau yn nhermau treftadaeth gan y gallant fod yn niweidiol i gymeriad, ymddangosiad a ffabrig yr adeilad rhestredig, a dylai’r cyfiawnhad hwn ystyried a oes unrhyw ddewisiadau eraill heblaw effeithio ar yr adeilad rhestredig ei hun.”
Dywedodd nad oedd opsiynau eraill ar gyfer y lleoliad, ac ar gyfer technolegau adnewyddadwy eraill, wedi cael digon o ystyriaeth.
“Bernir nad yw ystyriaeth briodol o’r holl opsiynau a dewisiadau amgen o safbwynt treftadaeth (e.e. lleoliad a gosodiad) wedi’i ddarparu gyda’r dogfennau a gyflwynwyd.
"Mae’n bosibl gosod paneli solar ffotofoltäig ar adeiladau rhestredig heb i’r rhain effeithio’n andwyol ar eu cymeriad a’u hymddangosiad lle byddent wedi’u lleoli y tu ôl i barapet neu o fewn dyffryn to.
“Fodd bynnag, yn yr achos hwn, byddai’r paneli solar ffotofoltaidd arfaethedig yn weladwy iawn wedi’u lleoli ar adeilad sy’n cynnwys un o’r golygfeydd pwysicaf yn y sir sy’n gorchuddio’r cyfan o lethr y to, ac yn cael effaith weledol sylweddol a fyddai’n effeithio’n andwyol ar gymeriad a edrychiad yr adeilad rhestredig.”
Daeth yr adroddiad i’r casgliad: “Er bod cydbwysedd i’w daro rhwng y defnydd o dechnolegau ynni adnewyddadwy a chadw cymeriad ac edrychiad adeiladau rhestredig, nid yw’r cynnig presennol yn dderbyniol am y rhesymau a nodir uchod.”
Y llynedd, dyfarnwyd Gwobr César i’r Harbourmaster gan y Good Hotel Guide ac fe gafodd ei enwi y gwesty gorau yng Nghymru.