Llofruddiaeth Trelái: Arestio dau ddyn
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio Colin Richards yn Nhrelái ar ddechrau’r mis.
Cafodd y dynion, 26 ac 18 oed, ill dau o Gaerdydd, eu harestio yn ardal Stoke ac maen nhw yn y ddalfa, meddai’r llu.
Mae teulu Mr Richards wedi cael eu diweddaru ac yn dal i dderbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Bu farw Mr Richards o Drelluest (Grangetown) wedi i’r gwasanaethau brys ymateb i alwad am ddigwyddiad yn ardal Heol-Y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau ar 7 Ebrill.
Cafodd tair dynes, dwy sydd yn 43 oed ac un yn 28 oed, eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a’u rhyddhau dan ymchwiliad.
Mewn teyrnged dywedodd teulu Colin Richards ei fod yn “dad, taid, mab, brawd, ewythr a chefnder hoffus ac yn ddyn teulu drwyddo draw.
“Mae’n gadael saith o blant ar ei ôl a fydd yn gweld ei eisiau’n fawr gan ei fod yn rhan fawr yn eu bywydau.
“Er bod y golled yn ddwfn, bydd pŵer cariad a chyfeillgarwch bob amser yn goroesi. Fe fydd yn ein meddyliau a’n calonnau am byth.”