Gwrthdroi un o euogfarnau Harvey Weinstein am dreisio
25/04/2024
Mae llys yn Efrog Newydd wedi gwrthdroi un o euogfarnau Harvey Weinstein am dreisio.
Cafodd y penderfyniad ei wneud ar y sail nad oedd wedi derbyn achos teg ar y pryd.
Daeth Llys Apeliadau Efrog Newydd i'r casgliad bod tystion wedi eu galw i'r achos pan nad oedd eu honiadau'n rhan o'r achos.
Mae'r cyn-gynhyrchydd ffilmiau 72 oed yn y carchar am gyfnod o 23 o flynyddoedd am droseddau treisio ac ymosodiadau rhyw.
Ni fydd y datblygiad diweddaraf o Efrog Newydd yn newid ei sefyllfa gan ei fod yn parhau yn y carchar am achos arall o dreisio ag ymosod yn rhywiol, gan dderbyn dedfryd o 16 mlynedd dan glo yn yr achos hwnnw.