Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn brwydro i godi Cwpan Cymru

Sgorio 28/04/2024
Y Seintiau Newydd yn erbyn Cei Connah

Brynhawn Sul, bydd Y Seintiau Newydd yn anelu i gwblhau’r trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes, a chodi Cwpan Cymru JD am y 10fed tro.

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli gêm ddomestig ers Chwefror 2023, a chewri Croesoswallt yw’r clwb cyntaf i fynd drwy dymor cyfan heb golli gêm yn Uwch Gynghrair Cymru ers Y Barri yn 1997/98.

Ers colli 3-2 yn erbyn Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed mewn gêm gynghrair ar 11 Chwefror 2023, mae’r Seintiau wedi mynd ar rediad o 53 o gemau domestig heb golli, gan ennill 49 o'r rheiny.

Yn ogystal â hynny, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 25 gêm yn olynol yng Nghwpan Cymru gan godi’r gwpan deirgwaith yn olynol (curo Cei Connah, Pen-y-bont a’r Bala yn y dair rownd derfynol).

Y tymor diwethaf fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931.

Dyna oedd y nawfed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth.

Cei Connah oedd y tîm diwethaf i guro’r Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru, ac hynny yn rownd wyth olaf 2017/18, cyn i’r Nomadiaid fynd ymlaen i godi’r cwpan ar ôl curo Aberystwyth o 4-1 ar Barc Latham dan arweiniad Andy Morrison.

Dyna’r unig dro yn yr 11 mlynedd diwethaf i’r Seintiau fethu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.

Image
Y Seintiau Newydd y codi Cwpan Cymru yn 2023
Y Seintiau Newydd yn codi Cwpan Cymru yn 2023. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Cafodd y Seintiau ddial y flwyddyn ganlynol, yn curo’r Nomadiaid o 3-0 yn rownd derfynol 2018/19 ar y Graig gyda Ryan Brobbel yn sgorio dwy gic rydd o bellter.

Fe lwyddodd Cei Connah a’r Seintiau Newydd i gyrraedd y rownd gynderfynol eleni yn weddol ddi-ffwdan, a dyw’r Nomadiaid heb orfod teithio’n bell iawn o gartref.

Chwaraeodd y Nomadiaid eu tair gêm gwpan gyntaf ar eu cae cartref yng Nghae-y-Castell (vs Caernarfon, Prestatyn a’r Fflint), cyn gwneud y daith fer i Fwcle, ac yna i gaeniwtral Llandudno ar gyfer y rownd gynderfynol yn erbyn Y Bala, ble sgoriodd Cei Connah unig gôl y gêm yn y funud olaf.

Mae’r Seintiau wedi gorfod teithio dipyn pellach, gan ennill oddi cartref yn Rhuthun, Caerfyrddin a Llansawel, gydag un gêm gartref yn erbyn Adar Gleision Trethomas yn y canol.

Cynhaliwyd rownd gynderfynol y Seintiau ar Barc Latham, lle daethon nhw’n ôl o fod yn colli 2-0, i ennill 6-2 yn erbyn Met Caerdydd.

Eleni yw dim ond yr eildro ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010 i’r ddau uchaf yn y gynghrair gyrraedd rownd derfynol y gwpan, a’r Seintiau Newydd a Chei Connah oedd y ddau dîm yr adeg hynny hefyd yn nhymor 2018/19.

Yr unig dro arall i’r ddau uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru gyrraedd rownd derfynol y gwpan oedd yn 2003/04 pan enillodd y pencampwyr, Y Rhyl o 1-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Dyma’r pedwerydd tro i Gei Connah gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru, yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Bangor yn 1997/98, curo Aberystwyth yn 2017/18, a cholli yn erbyn YSN yn 2018/19.

Mae’r Seintiau wedi chwarae mewn 13 ffeinal, yn ennill naw a cholli ar bedwar achlysur.

Mae hi wedi bod yn dymor o dorri recordiau i griw Craig Harrison sydd wedi llwyddo i orffen yr ymgyrch gyda’r nifer fwyaf o bwyntiau ers ffurfio’r fformat 12-tîm (92pt) a sgorio’r nifer fwyaf o goliau (117 gôl).

Mae’r Seintiau wedi gorffen y tymor 33 o bwyntiau uwchben Cei Connah, sef y bwlch mwyaf erioed rhwng 1af ac 2il ar ddiwedd tymor yn ystod fformat y 12-tîm.

Dechreuodd y tymor gyda dwy fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Cei Connah (yng Nghwpan Nathaniel MG ac yn y gynghrair), a bydd y pencampwyr yn gobeithio gorffen y tymor yn yr un modd ar ôl trechu’r Nomadiaid o 2-0 mewn gêm gynghrair y penwythnos diwethaf.

Mae’r Seintiau ar rediad o chwe buddugoliaeth yn olynol yn erbyn Cei Connah, ac heb golli mewn naw gornest yn erbyn y Nomadiaid ers y golled ar giciau o’r smotyn yn ngêm gynta’r tymor diwethaf yng Nghwpan Nathaniel MG.

Dyma’r tro cyntaf i’r rownd derfynol gael ei chynnal yng Nghasnewydd ers 1980, gyda Casnewydd yn curo’r Amwythig o 2-1 yn eu hen gartref ym Mharc Somerton y diwrnod hwnnw.

Ond dyma’r tro cyntaf i’r rownd derfynol gael ei chynnal yn Rodney Parade, a bydd selogion y Seintiau a’r Nomadiaid yn gobeithio y bydd hi’n daith i’w chofio i dde-ddwyrain y wlad yng ngêm ola’r tymor i’r ddau glwb.

Rownd Gynderfynol: Cei Connah 1-0 Y Bala, Met Caerdydd 2-6 YSN

Rownd Wyth Olaf: Bwcle 1-4 Cei Connah, Llansawel 1-5 YSN

4edd Rownd: Y Fflint 0-3 Cei Connah, Caerfyrddin 0-3 YSN

3edd Rownd: Cei Connah 8-0 Prestatyn, YSN 7-0 Adar Gleision Trethomas

2il Rownd: Cei Connah 4-1 Caernarfon, Rhuthun 0-5 YSN

Prif lun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.