Newyddion S4C

Cytundeb yr SNP a’r Gwyrddion i rannu grym yn yr Alban ar ben

25/04/2024

Cytundeb yr SNP a’r Gwyrddion i rannu grym yn yr Alban ar ben

Mae cytundeb yr SNP a’r Gwyrddion yr Alban i rannu grym yn yr Alban wedi dod i ben.

Roedd Prif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf (uchod), wedi galw cyfarfod brys o gabinet yr Alban fore Iau i drafod y mater.

Dywedodd ei fod yn credu bod  y cytundeb "yn werth ei bwysau mewn aur" ond bod y "cydbwysedd wedi newid."

Mae Gwyrddion yr Alban wedi cyhuddo’r SNP o “weithred o lwfrdra gwleidyddol” yn dilyn y penderfyniad.

Y disgwyl yw y bydd yr SNP yn parhau i geisio llywodraethu fel llywodraeth leiafrifol.

Ond fe fydd Ceidwadwyr yr Alban yn cyflwyno cynnig am bleidlais o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf, meddai arweinydd y blaid, Douglas Ross.

Y cefndir

Roedd y Gwyrddion wedi gwylltio pan gyhoeddodd Ysgrifennydd Net Sero yr Alban Mairi McAllan yr wythnos diwethaf y byddai Llywodraeth yr Alban yn dileu targed newid hinsawdd allweddol.

Dywedodd y Gwyrddion y byddent yn cynnal pleidlais ar ddyfodol y gytundeb a welodd ddau o'u gwleidyddion, Patrick Harvie and Lorna Slater, yn ymuno â'r llywodraeth.

Roedd disgwyl i’r bleidlais honno gael ei chynnal yn ddiweddarach ym mis Mai – ond mae’n ymddangos bod yr SNP wedi dod â'r gytundeb i ben cyn pryd.

Daeth y fargen yn 2021, a enwyd yn Gytundeb Tŷ Bute ar ôl preswylfa swyddogol Prif Weinidog yr Alban yng Nghaeredin, â’r Blaid Werdd i lywodraeth am y tro cyntaf mewn unrhyw ran o’r DU.

Rhoddodd fwyafrif i’r SNP yn Holyrood pan gyfunwyd pleidleisiau eu ASAau gyda phleidleisiau’r saith aelod o’r Gwyrddion.

Mae ffigyrau uchel eu proffil yn yr SNP, fel y cyn-ymgeisydd arweinyddol Kate Forbes a un o hoelion wyth y blaid Fergus Ewing, wedi galw o’r blaen am ddod â’r cytundeb i ben.

Mae disgwyl i'r etholiad nesaf yn yr Alban gael ei chynnal ym mis Mai 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.