Newyddion S4C

Tata eisiau bwrw mlaen â chynlluniau dadleuol ym Mhort Talbot

25/04/2024
TATA PORT TALBOT (PA)

Mae cwmni dur Tata'n dweud y bydd cynlluniau dadleuol ar gyfer eu gwaith ym Mhort Talbot yn diogelu dyfodol y diwydiant yn y DU. 

Mae dydd Iau yn nodi diwedd cyfnod o ymgynghori gan y cwmni ar gynlluniau i ddiswyddo tua 2,800 o weithwyr.

Mae undebau wedi annog y cwmni i beidio bwrw mlaen a'r cynlluniau oherwydd y nifer o swyddi fyddai'n cael eu colli, ac wedi cynnig eu cynllun eu hunain.

Ond mewn datganiad fore Iau, dywedodd llefarydd ar ran Tata: "Byddai ein cynllun £1.25 biliwn ar gyfer ffwrnes trydan ym Mhort Talbot y buddsoddiad mwyaf yn niwydiant dur y DU ers degawdau,  a byddai'n sicrhau dyfodol y diwydiant.

"Byddai'n diogelu'r mwyafrif o swyddi, lleihau allyriadau carbon y DU bum miliwn tunell y flwyddyn, a gallai lansio chwyldro diwydiannol gwyrdd yn Ne Cymru."

'Dychrynllyd'

Mae'r undebau wedi dweud y byddai eu cynllun nhw yn diogelu'r diwydiant dur, ac yn arbed miloedd o swyddi, tra bod cynlluniau Tata yn "fyrbwyll."

Dywedodd ysgrifenydd cyffredinol undeb Community, Roy Rickhuss, byddai cynlluniau'r cwmni yn arwain at "ganlyniadau dychrynllyd  i gymunedau dur yn Ne Cymru a thu hwnt."

"Dyw hi ddim yn rhy hwyr i Tata wneud y peth iawn a derbyn cynllun yr undebau- a ryn ni'n gobeithio y bydden nhw'n cymryd y cam yma," meddai.

"Ond os bydd y cwmni'n dewis ei wrthod, byddwn yn eu hymladd bob cam o'r ffordd."

Mae aelodau undeb Community wrthi'n pleidleisio ar gynlluniau i streicio mewn protest. Mae aelodau undeb Unite eisoes wedi pleidleisio dros weithredu'n ddiwydiannol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.