Cyn-arweinydd y DUP Syr Jeffrey Donaldson wedi’i ryddhau ar fechnïaeth
Mae cyn-arweinydd plaid y DUP Syr Jeffrey Donaldson wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wedi iddo ymddangos yn y llys ddydd Mercher wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol.
Fe gafodd ei arestio yn ei gartref ym mis Mawrth, a'i gyhuddo ar yr un diwrnod.
Mae Syr Jeffrey, sy’n 61 oed, yn wynebu 11 cyhuddiad yn ei erbyn, gan gynnwys achos o dreisio. Fe ddigwyddodd y troseddau honedig ar ddyddiau rhwng 1985 a 2006.
Mae eisoes wedi dweud y byddai’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, sy’n gysylltiedig â dau berson honedig.
Mae gwraig Syr Jeffrey, Eleanor Mary Elizabeth Donaldson, 58 oed, hefyd wedi ymddangos yn y llys ddydd Mercher a hithau wedi ei chyhuddo o gynorthwyo gyda'r cyhuddiadau honedig.
Ymddiswyddodd Syr Jeffrey Donaldson fel arweinydd y DUP o fewn oriau o gael ei gyhuddo ar 28 Mawrth. Cafodd Gavin Robinson ei benodi fel arweinydd y blaid dros dro.
Mae wedi bod yn AS i etholaeth Cwm Lagan ers 1997.
Fe gafodd ei ethol fel arweinydd y DUP yn 2021.