Newyddion S4C

Y Llywodraeth yn cyhoeddi newidiadau i'r terfyn cyflymder 20mya ar rai ffyrdd

23/04/2024

Y Llywodraeth yn cyhoeddi newidiadau i'r terfyn cyflymder 20mya ar rai ffyrdd

Bydd Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i broses o "wrando" ar y cyhoedd wrth dargedu newidiadau i'r terfyn cyflymder 20mya, meddai Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates.

Y bwriad yw y bydd ymgynghoriad cenedlaethol yn dechrau ym mis Medi.

Nid yw'r cyhoeddiad yn dro pedol sylfaenol ar y polisi dadleuol sydd mewn grym ers fis Medi y llynedd.

Mewn araith yn y Senedd yn esbonio ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai llais pobl Cymru yn "ganolog" i bob penderfyniad ar drafnidiaeth gan ddatgelu cynllun tri cham ar gyfer y terfyn 20mya.

Dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru'n "cydweithio ag awdurdodau lleol i baratoi'r tir ar gyfer newid y canllawiau ar ba ffyrdd lleol allai gael eu heithrio rhag y terfyn 20mya". 

"Caiff y canllaw newydd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, a bydd disgwyl i Gynghorau ddechrau ymgynghori ar y newidiadau ym mis Medi," meddai.

'Gwrando'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Rydyn ni wedi dechrau trwy wrando. Dw i wedi dweud yn glir ymhob sgwrs y byddwn yn rhoi cymunedau'n ganolog yn ein meddyliau ac yn gwrando ar bobl

"Fel dwi eisoes wedi dweud, mae yna gonsensws cynyddol ynghylch beth yw cyflymder diogel mewn cymunedau a gallwn adeiladu ar hynny. Rydyn ni'n dal i gredu mai 20mya yw'r terfyn cyflymder cywir mewn ardaloedd o amgylch ysbytai, ysgolion, meithrinfeydd, canolfannau cymuned, mannau chwarae ac ardaloedd preswyl poblog.

"Prif amcan y polisi yw arbed bywydau a lleihau'r nifer sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd.  Yr hyn dwi'n ei wneud nawr yw gwrando ar beth mae pobl am ei weld ar y ffyrdd yn eu cymunedau nhw, a mynd ati i fireinio'n polisi a dewis y cyflymder iawn ar gyfer y ffyrdd iawn."

Cynllun tri cham

Fe fydd y cynllun tri cham sydd wedi ei gyhoeddi'n cynnwys rhaglen o wrando "go iawn" ar bobl, gweithio mewn partneriaeth â chyrff allweddol i barato'r tir ar gyfer newid a rhoi'r "newidiadau angenrheidiol ar waith ar lawr gwlad".

Ychwanegodd Ken Skates: "Yn y pen draw, nid fi na Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu faint o newid fydd yn digwydd yn y 22 awdurdod lleol. 

"Y cyhoedd fydd yn gwneud hynny, a'r cynghorau, sef yr awdurdod priffyrdd ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl."

'Ymarferiad cyfathrebu'

Wrth ymateb i gyhoeddiad Mr Skates, dywedodd Natasha Asghar AS, gweinidog trafnidiaeth cysgodol y Ceidwadwyr: “Yn anffodus, dim ond ymarferiad cyfathrebu oedd holl sôn Llafur am newid ar eu terfyn cyflymder diffygiol o 20mya sydd o ganlyniad wedi gwneud pobl o bob cwr o Gymru yn credu y bydd eu ffyrdd yn mynd yn ôl i 30mya.

“Y gwir amdani yw, ar ôl holl sôn Llafur am wrando ar y Cymry, mai 20mya fydd y terfyn cyflymder rhagosodedig ledled Cymru o hyd. 

"Does dim byd wedi newid i bawb o fewn a thu allan i Gymru.

“Yn lle gwneud i gynghorau lanhau’r llanast o’r polisi gwirion, ymrannol a dinistriol hwn, dylid ei ddileu yn ei gyfanrwydd, fel y gall synnwyr cyffredin fod yn drech ac erys 20mya lle mae ei angen megis y tu allan i ysgolion, mannau chwarae, strydoedd mawr, lleoedd o addoliad ac ati.”

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Llywodraeth Lafur ar y polisi 20mya, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Delyth Jewell AS: “O ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus – rhaid i’r Llywodraeth Lafur ganolbwyntio ar ddarparu seilwaith sy’n gweithio i’n cymunedau.

“Mae dros chwe mis wedi mynd heibio ers i Blaid Cymru gyflwyno gwelliant yn y Senedd, ac ennill y bleidlais, gan ennill ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i adolygu effaith terfynau newydd ac i rymuso awdurdodau lleol i wneud eithriadau pellach.

“Mae Plaid Cymru yn cefnogi’n llwyr yr egwyddor o barthau 20mya eang i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac achub bywydau – ond ni all neb wadu bod problemau eang wedi bod gyda’i weithredu o’r diwrnod cyntaf.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur unioni hyn drwy ddefnyddio’r pwerau a basiwyd yng ngwelliant Plaid Cymru, a gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau i gael y polisi hwn yn iawn unwaith ac am byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.