Dau wedi eu cyhuddo o dwyll wedi adroddiadau o beidio talu biliau bwyd
24/04/2024
Mae dau o bobl wedi eu cyhuddo o droseddau i'w wneud â thwyll wedi adroddiadau bod biliau heb gael eu talu mewn siopau a bwytai yn ddiweddar yn ne Cymru.
Fe gafodd Ann McDonagh, 39 oed o Draethmelyn ym Mhort Talbot ei chyhuddo o bum achos o dwyll a phedair achos o droseddau lladrata.
Cafodd Bernard McDonagh, 41 oed o’r un ardal, ei gyhuddo o bum achos o dwyll.
Mi fydd y ddau ohonynt yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ar 8 Mai.