Newyddion S4C

Cymeradwyo argymhelliad i gau dau safle Ambiwlans Awyr

23/04/2024

Cymeradwyo argymhelliad i gau dau safle Ambiwlans Awyr

Mae'r penderfyniad terfynol i gau dau safle Ambiwlans Awyr yn y gogledd a'r canolbarth er mwyn creu un safle canolog newydd wedi ei gadarnhau.

Mewn cyfarfod o Gyd-bwyllgor Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd fore dydd Mawrth, fe wnaeth mwyafrif llethol o'r aelodau bleidleisio o blaid argymhelliad i gau safleoedd Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng unwaith y bydd safle newydd wedi ei ddatblygu.

Fe fydd canolfan newydd yn cael ei datblygu maes o law ar hyd yr A55 - o bosib yn ardal Y Rhuddlan yn Sir Ddinbych.

Ond fe fydd y pwyllgor, sydd yn cynnwys prif swyddogion saith bwrdd iechyd Cymru fel aelodau, yn cyfarfod eto yn yr Hydref er mwyn trafod camau penodol fydd angen eu dilyn cyn i'r newid ddod i rym.

Ni fydd newid i'r safleoedd presesnnol yn y gogledd tan 2026 ar y cynharaf.

Cafodd y penderfyniad ei wneud ar yr amod y bydd gwaith yn cael ei gomisiynu "i gynnig gwelliant pwrpasol ar y ffyrdd a/neu gwasanaethau gofal critigol mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell".

Argymhellion

Dyma oedd y pedwerydd argymhelliad gafodd ei gymeradwyo, ac fe gafodd ei ychwanegu i'r tri brif argymhelliad yn dilyn pryderon gan y cyhoedd yn ystod y broses o bwyso a mesur y farn gyhoeddus am y newidiadau.

Fe fyddai unrhyw "welliant pwrpasol" i wasanaethau'r ffyrdd neu wasanaethau gofal critigol mewn ardaloedd gwledig yn ychwanegol i'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys sydd yn bodoli'n barod - yn hytrach na gwasanaeth newydd yn ei le.

Mae'r penderfyniad ddydd Mawrth yn dilyn adolygiad gan brif gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, oedd â’r nod o wella’r gwasanaeth.

Roedd ei adolygiad dadleuol wedi argymell cau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng a’u huno mewn lleoliad newydd yn ardal Y Rhuddlan yn Sir Ddinbych.

Yn ôl y Comisiynydd, Stephen Harrhy, byddai symud yr hofrenyddion i'r safle newydd yn golygu y byddai’r gwasanaeth yn gallu ymateb i 139 o alwadau ychwanegol bob blwyddyn.

Gwrthwynebiad

Ond mae cryn wrthwynebiad wedi dod gan y cyhoedd a gwleidyddion yn y gogledd a'r canolbarth i'r argymhelliad, gyda rhai yn poeni y bydd symud y gwasanaeth yn ei gwneud hi’n anoddach i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau mewn ardaloedd gwledig.

Wrth ymateb i'r newyddion ddydd Mawrth fe wnaeth Plaid Cymru ryddhau datganiad ar y cyd.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, Mabon ap Gwynfor AS, Rhun ap Iorwerth AS, Sian Gwenllian AS a Hywel William AS:  "Mae’r penderfyniad heddiw i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng o blaid canoli’r gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru yn mynd yn groes i fuddiannau cymunedau ar draws gogledd orllewin a chanolbarth Cymru.
 
"Rydym ymhell o fod yn sicr na fydd yr ardaloedd sydd mewn perygl o’r cynlluniau hyn megis Pen Llŷn, de Meirionnydd, Ynys Môn, a chanolbarth Cymru yn cael eu gadael gyda gwasanaeth arafach ac is-safonol.
 
"O ystyried rhai o’r cwestiynau am y data sy’n cael ei ddefnyddio fel sail i’r cynnig, nid yw’n afresymol i bobl fod â phryderon difrifol y bydd gennym wasanaeth sylweddol is wrth gau safleoedd Caernarfon a’r Trallwng."
 
Ychwanegodd eu datganiad: "Nid ydym ychwaith wedi cael digon o wybodaeth am sut fyddai gweithredu'r argymhellion hyn yn edrych, a’r camau a fyddai’n cael eu cymryd, er enghraifft, i ddatblygu’r gwasanaeth cerbyd y cyfeirir ato yn argymhelliad 4.
 
"Nid dyma ddiwedd y frwydr. Byddwn yn parhau i weithio gydag ymgyrchwyr lleol i archwilio pob opsiwn posibl i herio'r penderfyniad byr-olwg hwn sy'n cael ei yrru'n ganolog.
 
"Ni ddylai pobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Cymru orfod dioddef canlyniadau mesuradwy gwaeth yn seiliedig ar ddata diffygiol nad yw wedi'i ddilysu'n annibynnol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.