Llu heddlu annibynnol i ymchwilio i lofruddiaeth Stephen Lawrence
Mae Heddlu'r Met wedi cytuno y bydd llu heddlu annibynnol yn ymchwilio i lofruddiaeth Stephen Lawrence.
Daw hyn yn sgil galwadau gan fam Stephen, y Farwnes Doreen Lawrence, i ail-agor yr ymchwiliad.
Fe gafodd Stephen ei ladd yn 18 oed ar ôl cael ei drywanu i farwolaeth mewn ymosodiad hiliol ar 22 Ebrill 1993 yn ne Llundain.
Fe gafodd methiannau cynnar y Met eu beirniadu gan yr Adroddiad Macpherson ym 1999, a ddaeth i'r casgliad fod y llu yn sefydliadol hiliol.
Dim ond dau o lofruddwyr Stephen sydd wedi cael eu dedfrydu, sef Gary Dobson a David Norris.
Yn 2020, daeth ymchwiliad y Met i ben, gyda'r llu yn dweud eu bod wedi ymchwilio pob trywydd posib.
Yn gynharach, fe wnaeth y Met ymddiheuro i'r Farwnes Lawrence am dorri addewid i gynnig atebion.
Dywedodd y Met eu bod yn "cydnabod" ei phryderon, ac y byddai llu annibynnol yn "adolygu ein hagwedd."