Newyddion S4C

Y farchnad dai ar ‘ei hanoddaf ers 70 mlynedd’

22/04/2024
tai

Mae pobl sydd am brynu tŷ am y tro cyntaf yn wynebu’r amodau mwyaf anodd i wneud hynny ers 70 mlynedd.

Dyna gasgliad y Building Societies Association (BSA).

Fwyfwy mae’n rhaid dibynnu ar gymorth gan rieni neu fod dau berson sydd yn prynu’r tŷ ar incwm uchel medd yr adroddiad.

Awgryma’r ddogfen bod cwymp wedi bod yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn y nifer o bobl ifanc sydd yn prynu tai.

Mae’r cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog ar forgeisi yn ogystal â’r angen am flaendal yn gwneud hi’n anoddach.

Yn ogystal mae prisiau tai wedi bod yn cynyddu fwy nag y mae cyflogau wedi bod yn gwneud.

Yn ôl y BSA, mae angen mwy o “hyblygrwydd” gyda rheoliadau fel yr uchafswm y byddai modd benthyg os yw’r rhai sy’n prynu dim ond gyda blaendal bach.

Maent yn dweud y dylai’r llywodraeth gomisiynu adolygiad o’r farchnad dai.

Dywedodd Paul Broadhead, Pennaeth Morgeisi a pholisi tai y BSA: “Mae prynu tŷ am y tro cyntaf mae’n siŵr y mwyaf drud y mae wedi bod ers o leiaf 70 mlynedd. Ond mae marchnad dai sydd yn gweithio yn effeithiol yn ddibynnol ar werthwyr yn gallu fforddio prynu eu cartrefi cyntaf.

"Mae yna angen am syniadau newydd a radical.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.