Newyddion S4C

Achosion o drais difrifol wedi gostwng 'yn sylweddol' yng Nghymru a Lloegr

22/04/2024
heddlu caerffili

Mae achosion o drais difrifol wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru a Lloegr yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Fe ddaeth y gostyngiad yn sgil llai o drais rhwng pobl 18- 30 oed.

Mae’r ymchwil yn dangos fod tua 141,804 o bobl oedd wedi cael anafiadau yn sgil trais wedi eu trin mewn adrannau brys ar draws Cymru a Lloegr yn 2023.

Roedd hyn yn ostyngiad o 22,919 neu 14% o’i gymharu â’r flwyddyn cynt.  

Yn ôl prif awdur y gwaith ymchwil, yr Athro Jonathan Shepherd, mae Cymru a Lloegr bellach yn “fwy diogel” – ac yn fwy diogel “o lawer” o’i gymharu â 20 mlynedd yn ôl. 

“Mae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ein hadroddiad, wedi cwympo 55% ers 2010 a 66% ers 2001. Mae Cymru a Lloegr yn llawer mwy diogel nawr,” meddai. 

Dywedodd yr Athro Shepherd hefyd bod yna bosibilrwydd bod llai o drais rhwng pobl 18-30 oed oherwydd bod mwy ohonynt yn byw gartref gyda’u teulu nag oeddent yn y gorffennol.

‘Ffigyrau dramatig’

Dros gyfnod o 20 mlynedd o gofnodi data, dim ond unwaith o’r blaen y mae nifer yr achosion o drais difrifol wedi bod ar lefel is nag yr oedd y llynedd, sef yn 2020 yn ystod cyfnod clo'r pandemig.  

Roedd achosion o drais difrifol, sef achosion lle mai angen triniaeth feddygol ar frys ar unigolion, wedi cynyddu’n sylweddol yn 2021 a 2022, sef y blynyddoedd wedi’r cyfnod clo. 

Ond mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion bellach wedi gostwng unwaith eto, gan gyfrannu i’r tuedd hirdymor sydd yn dangos gostyngiad  ar gyfartaledd ers 2001. 

Fe ddaw’r gwaith ymchwil wedi i Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd ddadansoddi 219 o adrannau brys ac unedau mân anafiadau yn ysbytai ledled Cymru a Lloegr y llynedd. 

Mae'r ffigyrau meddai yr Athro Shepherd yn “ddramatig” ac yn newyddion da i’r gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau brys. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.