Newyddion S4C

Pêl-droed: Bae Colwyn yn disgyn o'r Cymru Premier JD

21/04/2024
Bae Colwyn 2024

Mae Bae Colwyn wedi disgyn o'r Cymru Premier JD ar ddiwrnod olaf y tymor cyffredin yn dilyn buddugoliaeth Aberystwyth dros Bontypridd.

Roedd y Gwylanod ar waelod y gynghrair ac er iddyn nhw guro'r Barri o gôl i ddim a chodi un safle, roedd buddugoliaeth 3-0 i Aber, oedd dau bwynt o flaen Bae Colwyn cyn gemau ddydd Sul, yn sicrhau eu statws yn uwch gynghrair Cymru.

Fe fydd Bae Colwyn yn ymuno â Phontypridd sydd hefyd yn disgyn o'r gynghrair wedi iddynt fethu â sicrhau trwydded i chwarae yn y gynghrair tymor nesaf.

Goliau Louis Bradford, Steffan Davies a David Evans wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i Aber, sydd yn golygu bod y clwb, sydd wedi bod yn oll bresennol yn yr haen uchaf ers ffurfio'r gynghrair yn 1992, yn chwarae tymor arall yn y Cymru Premier JD.

Er i Alex Downes sgorio'r gôl fuddugol i Fae Colwyn wedi 82 munud yn erbyn Y Barri, fe orffennodd y tîm cartref yn y ddau safle isaf.

Fe lwyddodd Pen-y-bont i gipio'r seithfed safle wedi buddugoliaeth 1-0 dros Hwlffordd, ac mi fydden nhw'n cystadlu yn erbyn Met Caerdydd, Y Drenewydd a Chaernarfon am le yn Ewrop y tymor nesaf.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.