Newyddion S4C

Cleifion sy'n aros am driniaeth canser yn cael eu 'heffeithio'n seicolegol ac yn ariannol'

21/04/2024

Cleifion sy'n aros am driniaeth canser yn cael eu 'heffeithio'n seicolegol ac yn ariannol'

Mae elusen canser yn dweud bod rhestrau aros am driniaeth yn "argyfyngus" ac yn cael "effaith ariannol a seicolegol" ar y rhai sy'n aros.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod rhestrau aros ac amseroedd aros am driniaeth canser ar eu hail lefel uchaf ar gofnod.

Yn ôl Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, mae unigolion yn cael eu heffeithio'n fawr gan eu bod yn derbyn diagnosis ac wedyn yn aros am driniaeth.

Dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales: “Yn anffodus, dydw i ddim yn synnu ar y ffigyrau, mae hon yn duedd sydd wedi digwydd dros gyfnod o flynyddoedd a blynyddoedd. 

"Ond, rydyn ni’n cyrraedd cyfnod nawr lle mae angen i ni ddefnyddio’r term ‘argyfwng.’

“Yr hyn rwy'n ei olygu wrth argyfwng yw bod pobl yn aros yn hirach nag y dylent fod, ac mae'r effaith ar gleifion a'u teuluoedd yn enfawr, ac rwy'n meddwl mai'r hyn y mae angen i ni wneud yn sicrhau bod ffocws laser ar hyn, ein bod ni ddim yn gweld ar hyn o bryd.

“Rydyn ni'n gweld rhywbeth newydd nawr, roedden ni'n arfer cael pobl a oedd yn cael prawf ac wedi aros am y canlyniadau hynny. Yr hyn rydyn ni'n ei weld nawr yw pobl sydd wedi cael diagnosis ac yn aros i'w triniaeth ddechrau.

“Felly, mae’n rhaid i’r bobl hynny feddwl am eu lles ariannol, oherwydd mae’n rhaid iddyn nhw gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith; yr effaith seicolegol ar eu teulu, efallai bod ganddyn nhw blant, efallai bod ganddyn nhw wyrion ac wyresau. Felly, mae’n cael effaith enfawr ar y teulu.

“Ac fe ddefnyddion ni’r term ffyrlo yn ystod covid, ni ellir rhoi canser ar ffyrlo, nid yw’n aros ond mae pobl yn eistedd yn aros am driniaeth i ddechrau ac mae gan hynny effaith tymor hir yn seicolegol ac yn ariannol arnynt hefyd."

'Blaenoriaeth'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser.

Dywedodd llefarydd: “Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau canser i wella diagnosis a mynediad at ofal o ansawdd uchel, ac rydym hefyd wedi lansio rhaglen genedlaethol i gefnogi adferiad mewn amseroedd aros canser gyda £2 filiwn y flwyddyn am dair blynedd. 

"Mae mynediad at driniaeth canser yn flaenoriaeth ac mae timau clinigol a rheolwyr ar draws y GIG yng Nghymru yn gweithio’n galed i wella perfformiad canser.”

Ym mis Chwefror dechreuodd 53.4% o achosion lle mae rhywun yn cael ei hamau o gael canser driniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau, o'i gymharu â 54.7% yn y mis blaenorol.

Dyma'r ail ffigwr gwaethaf ar gofnod, ond yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan, mae rhywfaint o welliant wedi bod o ran lleihau'r cyfnodau aros hiraf am driniaeth.

Mae 97% o gleifion bellach yn aros llai na dwy flynedd yn ardaloedd chwech o'r saith bwrdd iechyd.

'Pryder'

Ychwanegodd Mr Pugh, bod nifer o bobl yn dod at elusen Macmillan yn pryderu am yr amser mae'n cymryd iddynt dderbyn triniaeth.

"Fel elusen, rydym yn gweld pobl sydd yn poeni yn derbyn y diagnosis. Fel elusen trydydd sector, rydym yn gweithio er mwyn delio gyda hyn, ond mae'r galw am gymorth yn enfawr.

"Mae'r pryder yn cynyddu ac nid yw'n diflannu chwaith.

"Mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn gwneud eu gwaith yn wych, ond nid ydyn nhw erioed wedi trin gymaint o bobl â hyn. Dyw hyn ddim yn broblem Covid yn unig, roedd y canlyniadau ddim yn dda cyn hynny.

"Mae angen i ni weld cyd-weithio gwell rhwng y byrddau iechyd, a hefyd arweinyddiaeth gan y Prif Weinidog newydd a'r Gweinidog Iechyd newydd i sicrhau bod canser ar flaen meddyliau pawb."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.