Newyddion S4C

America yn pleidleisio o blaid pecyn cymorth gwerth biliynau i Wcráin

20/04/2024
Ty'r cynrychiolwyr

Mae Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau wedi pleidleisio o blaid pecyn cymorth gwerth $61bn (£49bn) ar gyfer Wcráin.

Mae’r bleidlais wedi’i gohirio gan Weriniaethwyr ers misoedd, gyda rhai yn gwrthwynebu anfon arian dramor yn lle’r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.

Dechreuodd cefnogwyr chwifio baneri Wcráin, bloeddio a chlapio hyd yn oed cyn i’r canlyniad gael ei gyhoeddi’n ffurfiol, pan ddaeth yn amlwg y byddai pecyn cymorth Wcráin yn cael ei gymeradwyo o’r diwedd.

Mae hon yn foment allweddol i Kyiv, ac mae ei gefnogwyr yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn pwyso i’r bleidlais hon ddigwydd ers misoedd.

Nid yw'n gyffredin gweld golygfeydd mor orfoleddus yn y Tŷ ond mae'r bleidlais hon wedi cymryd amser hir i ddod.

Mae angen y cymorth ar Wcráin, sy'n dibynnu'n drwm ar arfau'r gorllewin, wrth iddi frwydro yn erbyn goresgyniad Rwsia.

Mae milwyr Wcráin yn rhedeg mor isel ar arfau rhyfel fel eu bod yn gorfod dogni bwledi ar faes y gad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.