Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru 'angen clicio' yn erbyn Ffrainc

21/04/2024
Carys Cox rygbi

Mae angen i Gymru "ddod o hyd o ffordd i glicio" yn erbyn Ffrainc, meddai'r asgellwr Carys Cox.

Nid yw Cymru wedi ennill un o'i gemau yn y bencampwriaeth hyd yma, ac ni fydd yn dasg yn erbyn y Ffrancwyr ym Mharc yr Arfau ddydd Sul yn un hawdd.

Mae Ioan Cunnigham wedi gwneud saith newid i'w dîm i wynebu Ffrainc, gyda Catherine Richards yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf, a'r chwaraewyr profiadol Jasmine Joyce, Keira Bevan, Kerin Lake, Bethan Lewis a Jenny Hesketh yn colli eu lle.

Ond er gwaethaf y colledion, mae Cox yn credu nad yw'r gobaith yn y garfan wedi diflannu.

Mae hi'n edrych ymlaen at orffen y gystadleuaeth "yn gryf" gyda dwy gêm gartref, wrth wynebu Ffrainc ddydd Sul ac yna'r Eidal yn Stadiwm y Principality.

“Rydyn ni’n dal i frifo llawer ac yn siomedig am y perfformiad allan yn Iwerddon. Nid dyma ddiwedd y gystadleuaeth i ni oherwydd mae gennym ni ddwy gêm ar ôl i’w chwarae,” meddai.

“Roedd yn berfformiad annodweddiadol yn erbyn y Gwyddelod. Nid ydym yn poeni oherwydd mae gennym grŵp mor dalentog o ferched - mae'n rhaid i ni ddod o hyd o ffordd i glicio.

“Lloegr oedd un o’n perfformiadau gwell yn ddiweddar, fe gawson ni rai cyfleoedd ac roedden ni’n falch gyda hynny, ond roedd rhywbeth na chliciodd ar y diwrnod yn Iwerddon. Ond mae'n rhaid i ni sylweddoli bod pob tîm merched yn tyfu nawr."

Chwe chais i ddau oedd hi i’r Ffrancwyr yn eu buddugoliaeth o 39-14 yn Grenoble yn y bencampwriaeth y llynedd. 

Carfan Cymru

Tîm cychwynol: Kayleigh Powell, Catherine Richards, Hannah Jones (capten), Carys Cox, Courtney Keight, Lleucu George, Sian Jones; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Natalia John, Abbie Fleming, Alisha Butchers, Alex Callender, Georgia Evans.

Eilyddion:  Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Kate Williams, Gwennan Hopkins, Keira Bevan, Mollie Wilkinson, Jasmine Joyce

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.