Penderfynu cau ysgolion yng Nghaerdydd ar ôl i'r heddlu 'dderbyn gwybodaeth'
Mae dwy o ysgolion uwchradd Caerdydd ar gau ddydd Llun, wrth i Heddlu De Cymru ymchwilio i wybodaeth ddaeth i law swyddogion nos Sul.
Yn ôl y llu mae'r penderfyniad wedi ei wneud i gau Ysgol Uwchradd Llanisen ac Eastern High School fel cam diogelwch tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Daw hyn wedi trafodaethau rhwng yr heddlu a Chyngor Caerdydd.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mark Kavanagh: "Rydyn ni wedi dod i'r penderfyniad, gyda chefnogaeth gan Gyngor Caerdydd, i gadw'r ysgolion hyn ar gau ddydd Llun er mwyn atal unrhyw risg. Daw hyn yn dilyn gwybodaeth a gafodd ei roi i'r heddlu nos Sul."
Ychwanegodd yr heddwas fod yr heddlu yn ymchwilio ac nad oedd y penderfyniad wedi ei wneud "ar chwarae bach" ond eu bod wedi meddwl am "ddiogelwch y disgyblion, y staff a chymunedau ehangach yr ysgol".