Newyddion S4C

O'r Wyddfa i Everest: Mynyddwr yn ceisio cyrraedd copa 14 mynydd uchaf y byd

20/04/2024
Akke Rahman

Mae mynyddwr cafodd ei ysbrydoli gan ei ymweliad gyntaf â’r Wyddfa yn anelu i ddringo’r 14 copa uchaf yn y byd.

Bydd Akke Rahman, 41 oed, yn wynebu Everest am yr eildro fis yma, wrth iddo gychwyn ar her i godi arian at elusen.

Mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “hyderus”, ar ôl iddo fod y Mwslim Prydeinig cyntaf i ddringo mynydd uchaf y byd yn 2022.

Dywedodd Mr Rahman, sydd yn byw yn Oldham, yn Sir Caerhirfryn: “Rwy’n barod i’w wynebu. Rwy'n ei wneud ar gyfer dynoliaeth ac rwy'n helpu pobl.

“Y tro diwethaf i mi ddringo Everest, fe wnes i lwyddo mewn 21 diwrnod, sef bron hanner yr amser disgwyliedig, felly rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o'r profiad hwnnw yn fy helpu i ddod trwy hyn.”

Image
Akke Rahman

Mae’r 14 mynydd y bydd yn eu dringo i gyd, dros 8,000 metr o uchder ac mae’n disgwyl cwblhau ei her tua mis Medi 2025.

Bydd yn ymgymryd â’r her mewn pedwar cam, gyda’r cam cyntaf yn cynnwys pedwar mynydd yn yr Himalays, sef Everest, Lhotse, Makalu a Kanchenjunga.

Mae K2, Cho Oyu a Shishapangma ymhlith y mynyddoedd eraill y bydd Mr Rahman yn eu dringo.

'Caru'r' Wyddfa

Dechreuodd ddringo drwy ddringo’r Wyddfa yng Nghymru yn 2019 – ac mae wedi bod yn ymwelydd cyson i Eryri dros y blynyddoedd.

Dywedodd am Yr Wyddfa ar ei gyfrif Instagram: “Mae’r lle yma mor hardd, rydw i’n ei garu.”

Yn trafod ei baratoadau gydag asiantaeth PA, ychwanegodd: “Fe wnes i ddechrau mynydda dim ond i ysbrydoli fy mhlant a dangos iddyn nhw y gallwch chi wneud mwy na'r cyffredin a'ch bod chi'n gallu gwneud pethau gwych.

“Roeddwn i eisiau bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw ac o leiaf maen nhw’n gallu dweud, ‘dyma oedd fy nhad ac rydw i’n dyheu am fod yn rhywbeth fel hyn neu’n rhywbeth gwell’.

“Dyna lle dechreuodd y cyfan ac yna fe aeth allan o reolaeth.

“Mynydda yw fy angerdd ond mae fy nhanwydd yn helpu pobl.

“Rwy’n gwneud fy ngorau dros ddynoliaeth i geisio helpu cymaint o bobl ag y gallaf.

“Rydw i eisiau i bawb ymuno â dwylo a helpu’r anghenus, nid yn unig ymhellach i ffwrdd ond yn y DU hefyd.”

Bydd Mr Rahman yn codi arian tuag at elusen UKIM, sydd yn cefnogi cymunedau yn Bangladesh. Bydd modd dilyn ei daith ar Instagram, @akke_rahman.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.