Pedair ffilm nodwedd Gymraeg newydd yn derbyn hwb ariannol
Mae pedair ffilm nodwedd Gymraeg newydd wedi derbyn hwb ariannol gan gronfa gwerth £140,000.
Nod Cronfa Sinema Cymru Greadigol yw datblygu ffilmiau Cymraeg sy'n "feiddgar, yn anghonfensiynol, ac sydd â'r potensial i gael eu rhyddhau mewn sinemâu yn rhyngwladol".
Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol a bydd yn cael ei gyflwyno gan Ffilm Cymru.
Bydd y rownd gyntaf o gyllid datblygu yn buddsoddi £140,000 i gefnogi'r syniadau cychwynnol, gyda'r nod bod o leiaf un o'r ffilmiau yn symud ymlaen i gyllid cynhyrchu.
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi awduron, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr ffilmiau nodwedd yng Nghymru.
Y pedwar teitl a fydd yn derbyn cyllid datblygu yn y rownd gyntaf yw:
- Gorllewin Gwyllt: drama gomedi am alltud rhyfedd sy'n defnyddio ei gwybodaeth obsesiynol am ffilmiau cowbois i ddatrys diflaniad ei ffrind gorau o'u tref wledig yng Nghymru.
Carys Lewis (awdur, cyfarwyddwr), Bethan Leyshon (awdur)
- Pijin: Addasiad o nofel dod i oed Alys Conran am gyfeillgarwch plentyndod rhwng Pijin a Iola sy'n dianc rhag realiti trwy fyw bywyd o ddychymyg ac adrodd straeon - byd sydd yn y pen draw yn mynd allan o reolaeth gyda chanlyniadau trychinebus.
Triongl (cwmni cynhyrchu) Angharad Elen (awdur), Euros Lyn (cyfarwyddwr), Gethin Scourfield & Nora Ostler Spiteri (cynhyrchwyr)
- Lluest: Archwiliad gwaedlyd o frad a dial gan fenywod wedi'i osod yn yr eira ar fynyddoedd gogledd Cymru yn y ddeunawfed ganrif.
Severn Screen Ltd (cwmni cynhyrchu), Ed Talfan (awdur), Gareth Bryn (cyfarwyddwr), Hannah Thomas (cynhyrchydd), Gareth Evans (cynhyrchydd gweithredol), Caryl Lewis (cynhyrchydd gweithredol)
- Estron: Mae cymuned yn ymladd i oroesi wrth i luoedd arallfydol ymddangos.
Joio Cyf (cwmni cynhyrchu), Lee Haven Jones (cyfarwyddwr), Roger Williams (awdur)
'Pwysicach nag erioed'
Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddarparu mwy o ffilmiau Cymraeg annibynnol, mewn cyfnod pan fo'r sector dan bwysau cynyddol. Mae hynny’n bwysicach nag erioed.
“Gwnaethom lansio cronfa Sinema Cymru er mwyn helpu i ysbrydoli creadigrwydd yn y byd ffilmiau Cymraeg, ac er mwyn gwneud hynny mewn ffordd sy’n hyrwyddo lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn helpu i hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg i'r byd.
“Dw i mor falch bod y pedwar teitl cyffrous hyn wedi llwyddo i gael cyllid a fydd yn eu helpu i fwrw ’mlaen â’u syniadau."