Newyddion S4C

Artistiaid o'r gorllewin yn dweud mae'n 'fwy pwysig nag erioed' i gelf fod yn wleidyddol

20/04/2024
Lawrence Mathias

Mae’n “fwy pwysig nag erioed” i adlewyrchu materion gwleidyddol yng ngwaith celf, meddai artistiaid o orllewin Cymru. 

Bydd Lawrence Mathias a Carrie MacKinnon yn cynnal oriel gelf yn Hwlffordd dros y penwythnos, gan obeithio annog pobl i feddwl am y byd o’u cwmpas. 

Fe fydd Long Roads Home yn ymdrin â themâu ynghlwm a ffoi, gan drafod yr heriau y mae ffoaduriaid yn wynebu o ddydd i ddydd – gan gynnwys ffoi rhag rhyfela a byw gyda heriau ariannol difrifol. 

Mae’r artist Lawrence Mathias yn awyddus i bobl ymweld â’r oriel fydd yn arddangos gwaith celf “amrywiol” gan gynnwys fideos a gosodiadau, gan adael yn gwybod “ble ydw i’n sefyll ynglŷn â’r sefyllfa yma?” meddai wrth siarad â Newyddion S4C. 

“Mae llawer o artistiaid, a ffrindiau hefyd, ddim yn credu mewn cysylltiad gwleidyddol i’r celfyddydau. 

“Ond i fi mae’n rhaid i ni gael rhyw fath o inspiration, ac i fi mae gwleidyddiaeth yn bwysig, bwysig iawn yn y byd nawr,” meddai.  

Image
Long Roads Home
Y gwaith paratoi ar gyfer arddangosfa Long Roads Home

'Amserol'

Mae’r arddangosfa yn “amserol,” meddai Lawrence Mathias, wrth iddo drafod Mesur Rwanda Llywodraeth y DU – sydd â’r nod o anfon ceiswyr lloches i’r wlad yn nwyrain Affrica – yn ogystal â’r rhyfela sy’n digwydd ar draws y byd, gan gynnwys yn Wcráin a Gaza. 

Ond mae arddangosfa o’r fath hefyd wedi bod yn “amserol ers dros 40 mlynedd,” meddai’r artist wrth siarad â Newyddion S4C. 

Mae ffoaduriaid wedi bod yn wynebu heriau digynsail “ers rhyfel Affganistan,” meddai Mr Mathias. 

Fe ddaw ei sylwadau wedi iddo dreulio dros 30 mlynedd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o Affganistan mewn ysgolion yn Llundain, a rheiny wedi wynebu cyfnodau “cythryblus iawn” yn ystod eu bywydau.

Ac mae gan ei gyd-artist, Carrie MacKinnon, brofiad helaeth o ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid hefyd, wedi iddi dreulio cyfnodau tramor yn “cydweithio’n agos” gyda phobl sydd wedi ceisio ffoi. 

Fe fydd arddangosfa Long Roads Home yn cael ei chynnal dros y penwythnos yn adeilad HaverHub Depot yn yr Hwlffordd.

Dyma ddetholiad o waith Lawrence Mathias a Carrie MacKinnon, fydd i'w gweld yn yr arddangosfa:

Image
Long Roads Home
Image
Long Roads Home
Image
Long Roads Home
Image
Long Roads Home

Lluniau: @longroadshome/Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.