Newyddion S4C

Pam fod Taylor Swift yn cyfeirio at Dylan Thomas yn ei halbwm newydd?

Taylor Swift a Dylan Thomas

Mae’r gantores fyd enwog Taylor Swift wedi cyhoeddi ei bod am ryddhau albwm ddwbl “cyfrinachol” o’r newydd – ac mae ganddyn nhw gysylltiad Cymreig.

Yn ei chân, The Tortured Poets Department, sydd a’r un teitl ei halbwm newydd, mae’r gantores Americanaidd yn cyfeirio at y bardd adnabyddus, Dylan Thomas.

“Dwyt ti ddim yn Dylan Thomas. Nid Patti Smith ydw i. Nid dyma'r Chelsea Hotel,” meddai.

Bu farw’r bardd o Abertawe yng ngwesty’r Chelsea Hotel yn Efrog Newydd yn 1953, yn 39 oed, ac mae’r gantores hefyd yn cyfeirio at hynny yn ei chân.

Fe ddaeth cyhoeddiad Swift am ei “halbwm dwbwl” newydd oriau yn unig wedi iddi gyhoeddi ei bod am ryddhau The Tortured Poets Department, sef ei 11eg albwm, am hanner nos yn yr Unol Daleithiau. 

Ond am 2.00 yn oriau mân fore Gwener, fe gyhoeddodd y gantores y byddai hefyd yn rhyddhau record estynedig gyda 15 o ganeuon pellach – a hynny ar albwm ychwanegol o’r enw The Anthology. 

Fe ddaeth ei chyhoeddiad yn dilyn cyfnod o awgrymu yr oedd y rhif ‘dau’ yn gysylltiedig â’i halbwm newydd. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Swift: “Dyma eich syrpreis am 02.00: Mae The Tortured Poets Department yn albwm DWBL cyfrinachol.

“Dwi wedi ysgrifennu gymaint o farddoniaeth sy'n cyfleu poen yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac roeddwn i eisiau rhannu’r cyfan gyda chi, felly dyma ail ran TTPD: The Anthology sy'n 15 o ganeuon ychwanegol.

“A nawr nid fy stori i yw hi bellach ... eich un chi yw hi,” meddai.

Y cred yw bod yr albwm dwbl newydd yn cyfeirio at ei pherthynas â’r actor Joe Alwyn, yn ogystal â’r cerddor Matty Healy o fand y 1975, yn dod i ben yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.