Newyddion S4C

A fydd Penny Morduant yn agor Aldi Amlwch â’i chleddyf?

19/04/2024
Penny Morduant Cleddyf

Mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Penny Morduant, wedi dweud y byddai yn "hapus" i dorri’r rhuban gyda’i chleddyf petai siop Aldi newydd yn agor yn Amlwch.

Mewn sesiwn holi busnes yn San Steffan ddydd Iau, fe wnaeth yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, dweud ei bod yn ymgyrchu i gael archfarchnad newydd Aldi yn y dref.

Yna fe ofynnodd i Ms Morduant, oedd yn arwain y sesiwn, pe byddai yn fodlon cefnogi ei hymgyrch a “thorri’r rhuban”.

Atebodd Ms Morduant drwy ddweud y byddai yn “obeithiol” o allu mynychu agoriad os yw’r archfarchnad yn agor yn Amlwch, i dorri'r rhuban gyda’r cleddyf seremonïol o’r 17eg Ganrif, yr oedd yn ei thywys yn ystod seremoni coroni'r Brenin Charles y llynedd.

Yn y sesiwn, dywedodd Ms Crosbie: “Ers blynyddoedd, mae Amlwch wedi ei anghofio, ond nid dan fy ngoruchwyliaeth i.

“Ynghyd â Mandy Jones, sydd yn byw yn lleol, rydw i wedi cychwyn ar ymgyrch i geisio denu Aldi i Amlwch, i roi cyfle i’m hetholwyr i siopa yn lleol. 

"A fydd Arweinydd y Tŷ yn cefnogi fy ymgyrch Aldi i Amlwch, a pe byddai’n llwyddiannus, a fyddai hi yn ymuno â Mandy a minnau i dorri’r rhuban?”

'Hapus iawn'

Wrth hymateb, dywedodd Ms Morduant: “Hoffwn longyfarch fy ffrind anrhydeddus ar beth mae hi wedi ei chyflawni: y porthladd rhydd; y bartneriaeth rhwng y cyngor sir a Stena Line, a fydd o fudd enfawr i’r economi leol; ac wrth gwrs ei hanogaeth o brosiectau egni.

“Byddwn yn hapus iawn i wneud popeth yr wyf yn gallu ei wneud i’w helpu yn ei hymgyrch diweddaraf, sydd yn swnio fel un da.

"Er na allai ymrwymo i ddyddiad nes y bod yna un, rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu bod yn bresennol, mi fyddaf yn gallu helpu torri’r rhuban – efallai gyda chleddyf.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gydag Aldi am ymateb.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.