Newyddion S4C

'Fe wnes i fynd mewn tacsi gyda’r ffydd fy mod i’n ddiogel': Gyrrwr tacsi wedi'i garcharu am ymosodiad rhywiol ar deithiwr

ITV Cymru 18/04/2024
Llun: Heddlu De Cymru

Mae gyrrwr tacsi, wnaeth ymosod yn rhywiol ar fenyw oedd yn teithio yn ei gerbyd, wedi’i ddedfrydu i ddwy flynedd dan glo.

 Mae'r dyn hefyd wedi derbyn gorchymyn atal am bum mlynedd, yn ogystal â'i gofrestru fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd.

Fe wnaeth Bahaaelden Ibrahim, 44, ymosod ar y dioddefwr yn rhywiol yng Nghaerdydd ar 7 Tachwedd, 2021. 

Roedd y dioddefwr wedi bod allan yng nghanol y ddinas yn ystod gêm rygbi rhyngwladol Cymru pan wnaeth hi drefnu i dacsi ei chludo hi i gartref ei chariad.

Roedd Ibrahim yn gyrru'r dioddefwr i'w chyrchfan pan wnaeth e afael â hi ger ei garddwrn, dadwisgo’i hun a'i gorfodi i gyflawni gweithred rywiol.

Fe wnaeth gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 18 Ebrill, glywed sut wnaeth y dioddefwr ddechrau crïo'n hysterig yn ystod yr ymosodiad.

Yn dilyn yr ymosodiad rhywiol, fe ddaeth y dioddefwr allan o'r car a cherdded gweddill ei thaith adref. 

Yn ôl yr erlynydd, Alex Orndal, fe wnaeth y dioddefwr adrodd y digwyddiad i’r heddlu y diwrnod canlynol, ac fe gafodd Ibrahim ei arestio.

Fe wadodd Ibrahim yr honiadau yn ei erbyn, gan honni bod y dioddefwr wedi ymosod arno.

Yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Abertawe, cafwyd Ibrahim yn euog o ymosodiad rhywiol.

Mewn datganiad, dywedodd y dioddefwr: “Rwy’n unigolyn deallus a disglair, mae gen i yrfa lwyddiannus, mae gen i bartner cariadus a chefnogol, a theulu sydd yno i mi yn gyson.

"Ro’n i bob amser yn falch o'r ffaith fy mod yn fenyw hyderus ac annibynnol. Ond mae'r digwyddiad hwn wedi fy nghuro'n fawr."

Llun: Heddlu De Cymru/Media Wales

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.