Galw am weinidog ‘i amddiffyn ein fflagiau annwyl’
Mae Aelod Seneddol wedi galw ar Lywodraeth y DU i greu gweinidog er mwyn amddiffyn “ein fflagiau cenedlaethol annwyl”.
Dywedodd y Ceidwadwr Andrew Rosindell wrth Senedd San Steffan fod pobl wedi eu “cythruddo” gan ymdrechion i newid fflagiau.
Ymatebodd y Gweinidog Diwylliant nad oedd yn siŵr a oedd angen deddfu i amddiffyn fflagiau ond dywedodd fod angen i bobl ddefnyddio eu synnwyr cyffredin.
Daw’r sylwadau wedi ffrae dros benderfyniad Nike i newid lliwiau fflag Lloegr ar wegil crysau pêl-droed Lloegr.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak ac arweinydd y Blaid Lafur Rishi Sunak feirniadu'r newid.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau, dywedodd Mr Rosindell: “Rwy'n meddwl y bydd llawer o bobl wedi eu gwylltio'n arw gan y ffordd y mae rhai sefydliadau cenedlaethol wedi ceisio newid ein baneri cenedlaethol – gan gynnwys croes San Siôr a Jac yr Undeb.
“Onid yw’n bryd inni warchod a choleddu ein symbolau cenedlaethol drwy benodi gweinidog y goron i oruchwylio hyn o Swyddfa’r Cabinet.
“Ac a wnaiff hefyd edrych ar Fesur Baner yr Undeb 2008 sy’n ymgorffori mewn deddfwriaeth bod rhaid amddiffyn ein fflagiau cenedlaethol annwyl?”
Atebodd Mr Andrew: “Dylai Jac yr Undeb fod yn symbol sy’n uno’r wlad gyfan ac mae wedi bod ers rhai cannoedd o flynyddoedd, ac ni welaf unrhyw bwrpas ei newid.
“Dw i ddim yn siŵr bod angen deddfwriaeth, dw i’n meddwl ein bod ni angen rhywfaint o synnwyr cyffredin.”
Teulu brenhinol
Fe awgrymodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd Kevin Brennan bod hefyd angen amddiffyn delweddau o’r Teulu Brenhinol yn yr un modd.
Awgrymodd reoleiddio'r defnydd o ddelweddau o’r teulu brenhinol ar daflenni pleidiol.
Daw wedi i’r Ceidwadwyr ddefnyddio delwedd o’r Brenin Charles III mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd: “A fyddai’r gweinidog yr un mor awyddus i atal sefydliadau fel pleidiau gwleidyddol rhag defnyddio delweddau o’r Brenin yn eu propaganda?”
Wrth i wleidyddion bwffian chwerthin, fe ymatebodd Mr Andrew: “Dydw i ddim yn siŵr sut i ateb y cwestiwn hwnnw, os ydw i’n onest.”
“Y gwir amdani yw bod ein plaid bob amser wedi bod yn falch o ddefnyddio Jac yr Undeb oherwydd ein bod yn blaid unoliaethol balch ac weithiau byddwn yn falch o gefnogi’r teulu brenhinol.”
Llun: Andrew Rosindell a fflagiau cenedlaethol.