Newyddion S4C

'Bwlch enfawr': Gwraig yr actor Warwick Davis wedi marw yn 53 oed

18/04/2024
Warwick Davis a'i wraig

Mae gwraig yr actor Warwick Davis wedi marw yn 53 oed. 

Cyhoeddodd Mr Davis, sy'n enwog am ei rôl yn Star Wars a Harry Potter, fod ei wraig, Samantha, wedi marw ar 24 Mawrth. 

Fe wnaeth Samantha Davis gyd-sefydlu'r elusen corachedd (dwarfism) Little People UK, gan hefyd ymddangos yn y ffilm Harry Poter olaf gyda'i gŵr.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Davis: "Mae ei marwolaeth wedi gadael bwlch enfawr yn ein bywydau fel teulu. Dwi'n gweld eisiau cael cwts ganddi.'

Ychwanegodd mai ei wraig oedd "fy nghefnogwraig fwyaf ym mhob dim yr oeddwn yn ei wneud yn fy nghyrfa".

"Roedd hi'n gymeriad unigryw, bob tro yn gweld yr ochr ddoniol o fywyd ac roedd hi o hyd yn chwerthin ar fy jôcs gwael," meddai.

Fe wnaeth plant y cwpl, Annabelle a Harrison, hefyd roi teyrnged i'w mam, gan ddweud: "Fe wnaeth ei chariad a'i hapusrwydd ein cario ni trwy gydol ein bywydau.

"Mam ydi ein ffrind gorau, ac rydym ni mor lwcus o fod wedi derbyn cariad fel ei chariad hi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.