Teyrnged teulu i ferch 25 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful
Mae teulu merch 25 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Demi Leigh Mabbitt o'i hanafiadau ar 12 Ebrill, wythnos ar ôl y gwrthdrawiad.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei thad Paul Mabbitt ei bod yn "ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfneither hyfryd".
"Roedd yn enaid clên, ac er mai nid hi oedd yr hynaf na'r ieuengaf, hi oedd y person oedd yn dal ein teulu gyda'i gilydd, ac fe frwydrodd hi tan y diwedd un.
"Does dim geiriau i ddisgrifio'r boen yr ydym ni'n deimlo. Bydd ein merch yn parhau i fyw trwy atgofion, ac fe fyddwn yn ei chofio am byth."
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Abertawe yn y dref ar 5 Ebrill am tua 23:45.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac yn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1420-050424.