Newyddion S4C

Bra yn 'anghenraid sylfaenol ac ni ddylai gael ei drethu'

16/04/2024
siop bra

Mae bra yn anghenraid sylfaenol ac ni ddylai gael ei drethu yn ôl radiograffwyr.

Fe fydd cynrychiolwyr o Gymdeithas y Radiograffwyr yn clywed yn eu cynhadledd flynyddol yn Leeds ddydd Mawrth y gallai'r dreth gael ei hystyried fel ei bod yn gwahaniaethu merched o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Mae radiograffwyr yn cynnal sganiau Pelydr X, MRI a CT, sy'n gallu cael eu defnyddio i adnabod problemau sydd wedi eu hachosi gan fras sydd o'r maint a'r cyflwr anghywir. 

Yn ôl y cynrychiolwyr, er nad oes "unrhyw gyflwr iechyd yn ymwneud â gwisgo bra, gallai fod yna gyflyrau cyhyrysgerbydol (musculoskeletal), yn enwedig os ydych chi'n gwisgo bra maint mwy.

"Mae'r rhai sy'n gwisgo bra maint D neu uwch yn aml yn profi poen cefn, ysgwyddau a'r gwddf, yn sgil pwysau eu bronnau.

"Gallai gwisgo bra o ansawdd da ac sy'n ffitio'n well leddfu rhai o'r poenau hyn, a lleihau amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd problemau cyhyrysgerbydol."

Fe fydd cynrychiolwyr yn amlinellu'r tebygrwydd rhwng bra a chynnyrch y misglwyf, gan ddweud bod y ddau mor bwysig â'i gilydd, ac felly na ddylai bra gael ei drethu.

Ym mis Ionawr, fe gafodd y dreth ar ddillad isaf ar gyfer y mislif ei hepgor, gan olygu arbedion o hyd at £2 i ferched. 

Daw hyn wedi i dreth tampon ddod i ben ym mis Ionawr 2021.

Mae menywod sydd wedi derbyn llawdriniaeth am ganser y fron, boed yn fastectomi, mastectomi rhannol neu lumpectomy, wedi eu heithrio rhag TAW wrth brynu bra benodol.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.