Newyddion S4C

Sylwadau’r Prif Weinidog ar doriadau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn denu beirniadaeth

15/04/2024
Vaughan Gething ac Amgueddfa Cymru

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu sylwadau’r Prif Weinidog ar doriadau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Ddydd Llun fe wnaeth Vaughan Gething amddiffyn toriadau i gyllideb yr amgueddfa genedlaethol ar ôl pryderon am ddyfodol eu prif safle yng Nghaerdydd.

Roedd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru Jane Richardson wedi dweud ddydd Sul ei bod yn bosib y bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gorfod cau oherwydd cyflwr yr adeilad.

Wrth ymateb ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog fod ei lywodraeth yn wynebu “penderfyniadau anodd” ac angen buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Wrth ymateb, rhybuddiodd Plaid Cymru bod Cymru “mewn perygl o golli ei chof cenedlaethol” a dywedodd y Ceidwadwyr bod Llafur yn bodloni ar adael i’r amgueddfa yng Nghaerdydd “droi’n adfail”.

"Rhaid i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant newydd ddeall difrifoldeb y sefyllfa yn llawn a chymryd camau brys i ddiogelu ein casgliadau cenedlaethol, a'r gweithlu sy'n gofalu amdanynt,” meddai Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant.

“Ni all gwlad mor gyfoethog yn ei hanes, ei threftadaeth a'i diwylliant fentro colli ei chof cenedlaethol.”

Dywedodd Gweinidog Diwylliant yr Wrthblaid Tom Giffard: “Mae’n rhaid blaenoriaethu cyllid, ac mae’n rhaid gwneud dewisiadau anodd. 

“Dyna pam ei bod hi’n fwy rhwystredig fyth gweld Llywodraeth Lafur Cymru yn gwario cymaint ar eu prosiectau diangen, tra bod un o’n hamgueddfeydd blaenllaw yn mynd yn adfail.”

'Buddsoddi'

Wrth siarad ddydd Llun, dywedodd Mr Gething ei fod yn blaenoriaethu "iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraeth leol”.

Roedd hynny’n “golygu bod penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud ar draws yr ystod o lywodraeth".

"Os yw'r GIG wir am fod yn flaenoriaeth i ni, mae'n rhaid i ni fuddsoddi ynddo,” meddai.

“Mae gan hynny ganlyniadau i feysydd eraill yn ein bywyd cyhoeddus.

“Allwch chi ddim tynnu £1 biliwn allan o’n cyllideb heb fod yna ganlyniad.

“Rydyn ni ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle mae bod yn fwy arloesol yn mynd i'ch arbed chi. Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle mae’n rhaid gwneud dewisiadau go iawn am yr hyn na allwn ni ei wneud.

“Hoffwn weld dyfodol lle mae amgueddfa genedlaethol Caerdydd yn gallu gwneud y gwaith sydd ei angen ar yr adeilad a darparu’r gwasanaeth rhagorol hwnnw.”

Wrth siarad ddydd Sul dywedodd Jane Richardson fod yna broblem “enfawr’ gyda chyflwr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a bod Cyngor Caerdydd eisoes wedi cau’r adeilad drws nesaf.

Mae Amgueddfa Cymru wedi cael gostyngiad o £3 miliwn yn ei grant ond mae ganddi ddiffyg o flwyddyn i flwyddyn o £1.5 miliwn, sy’n golygu cyfanswm diffyg o £4.5 miliwn erbyn diwedd mis Mawrth.

Ychwanegodd Jane Richardson: “Pan mae dŵr yn dod trwyddo a’r trydan yn methu, mae yna gwestiwn dros ddyfodol yr adeilad beth bynnag.

“Rydym mor bositif a gallwn fod am hyn ond fe fydd yn rhaid edrych ble arall fedrwn gael presenoldeb yng Nghaerdydd."

Dywedodd Amgueddfa Cymru ddydd Llun eu bod nhw yn trafod gyda Llywodraeth Cymru i dderbyn cyllid cyfalaf yn arbennig ar gyfer gwaith i atgyweirio eu hadeilad yng Nghaerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.