Sgandal Horizon: Gollwng cyhuddiad o dwyll yn erbyn gweithiwr Swyddfa'r Post o Wynedd
15/04/2024
Cafodd cyhuddiad yn erbyn gweithiwr Swyddfa'r Post o Wynedd ei ollwng ddydd Llun yn dilyn sgandal system Horizon.
Fe ymddangosodd Samantha Cund, 37, o Dalybont ger Y Bermo yn Llys y Goron Caernarfon.
Roedd cyhuddiad o dwyll £60,000 yn ei herbyn yn ymwneud â’r cyfnod rhwng Mai 2017 i 2018.
Ond dywedodd cyfreithiwr ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron, David Mainstone, nad oedd modd cynnig tystiolaeth oherwydd bod system Horizon bellach “wedi colli hygrededd".
Cofnododd y Barnwr Timothy Petts ddyfarniad dieuog ar gyhuddiad o dwyll, ac fe gafodd y diffynnydd ei rhyddhau o’r doc.