Dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad ger Dolgellau
15/04/2024
Mae dynes yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad ger Dolgellau ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd, sef Ford Focus du, yn Rhydymain toc cyn 02.00 fore dydd Sadwrn.
Cafodd y ddynes a oedd yn gyrru'r car ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ond ers hynny mae hi wedi ei throsglwyddo i ysbyty yn Stoke.
Cafodd y ffordd ei hail-agor cyn 11.00 ddydd Sul.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu cyfeirnod 24000336644.