Iran wedi lansio dronau er mwyn ymosod ar Israel
Mae Iran wedi lansio dronau er mwyn ymosod ar Israel, meddai Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) nos Sadwrn.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, neges yn dweud bod lluoedd arfog y wlad yn barod am ymosodiad.
“Pwy bynnag sy’n ein brifo ni, mi wnawn ni eu brifo nhw,” meddai.
“Byddwn yn amddiffyn ein hunain rhag unrhyw fygythiad a byddwn yn gwneud hynny yn gwbl benderfynol.”
Cadarnhaodd Gwarchodlu Chwyldroadol Iran yr ymosodiad gan ddweud eu bod nhw lansio “dwsinau o ddronau a thaflegrau” yn erbyn “targedau penodol” yn Israel.
Dywedodd yr IDF y gallai'r dronau gymryd oriau i gyrraedd Israel, sydd 1,100 milltir o Iran.
Daw'r ymosodiad wedi i Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden rybuddio Iran i beidio ag ymosod ar Israel.
Cyhoeddodd y Tŷ Gwyn neges nos Sadwrn yn dweud y bydd "ein cefnogaeth i ddiogelwch Israel yn haearnaidd".
"Bydd yr Unol Daleithiau yn sefyll gyda Israel a'n cefnogi eu hymdrechion i warchod rhag y bygythiadau hyn."
Roedd pryderon wedi cynyddu fod Iran yn paratoi i ymateb i ymosodiad ar lysgenhadaeth y wlad yn Syria yn gynharach yn y mis.
Nid yw Israel wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad wnaeth ladd uwch swyddogion byddin Iran ond y gred ydy taw Israel oedd yn gyfrifol.
'Tywallt gwaed'
Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak ei fod yn condemnio “yn y termau cryfaf ymosodiad di-hid cyfundrefn Iran yn erbyn Israel”.
Roedd yr ymosodiad yn "ansefydlogi'r rhanbarth," meddai.
“Mae Iran wedi dangos unwaith eto eu bod yn bwriadu hau anhrefn yn eu iard gefn eu hunain.
“Bydd y DU yn parhau i gefnogi diogelwch Israel a diogelwch ein holl bartneriaid rhanbarthol, gan gynnwys yr Iorddonen ac Irac.
"Ochr yn ochr â'n cynghreiriaid, rydym yn gweithio ar frys i sefydlogi'r sefyllfa ac atal pethau rhag gwaethygu ymhellach.
"Does neb eisiau gweld mwy o dywallt gwaed."