Cefnogwyr yn dathlu Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i Adran Un
Cefnogwyr yn dathlu Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i Adran Un
Mae cefnogwyr Wrecsam wedi bod yn dathlu ar ôl iddyn nhw sicrhau dyrchafiad i Adran Un o Gynghrair Bêl-droed Lloegr ddydd Sadwrn.
Fe guron nhw Forest Green Rovers ar y Cae Ras o 6-0 a gyda Mansfield yn curo MK Dons a Barrow yn colli yn Gillingham, fe sicrhawyd lle Wrecsam yn y tri safle ar frig y table sy’n sicrhau dyrchafiad awtomatig.
Elliot Lee, Ryan Barnett, Jack Marriott a Paul Mullin (2) a gôl gan un o chwaraewyr Forest Green Rovers i’w rhwyd ei hun sicrhaodd y fuddugoliaeth.
Mae Wrecsam felly wedi sicrhau dyrchafiad dwy flynedd yn olynol am y tro cyntaf mewn 160 o flynyddoedd.
Llun: X/CPD Wrecsam
Inline Tweet: https://twitter.com/VancityReynolds/status/1779195903804420137